Ardal Selby

ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog

Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Ardal Selby (Saesneg: Selby District).

Ardal Selby
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd Swydd Efrog
PrifddinasSelby Edit this on Wikidata
Poblogaeth86,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd599.3108 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.777°N 1.079°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000169 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Ardal Selby Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 599 km², gyda 90,620 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Harrogate a Dinas Efrog i'r gogledd, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r dwyrain, De Swydd Efrog i'r de, a Gorllewin Swydd Efrog i'r gorllewin.

Ardal Selby yng Ngogledd Swydd Efrog

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Ar 1 Ebrill 1996, trosglwyddwyd plwyfi Acaster Malbis, Askham Bryan, Askham Richard, Bishopthorpe, Copmanthorpe, Deighton, Dunnington, Elvington, Fulford, Heslington, Kexby, Naburn a Wheldrake i awdurdod unedol newydd Dinas Efrog.[2]

Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Selby, ond mae tref Tadcaster hefyd yn yr ardal, yn ogystal â phentrefi mawr Cawood a Sherburn in Elmet. Mae rhan fawr yr ardal yn gorwedd yn Lefelau Penhwmbr.

Cyfeiriadau golygu