Cytref fwyaf yr Almaen yw Ardal y Ruhr (Almaeneg: Ruhrgebiet), gyda phoblogaeth o tua 5.3 miliwn o bobl ac arwynebedd o tua 4,425 km2. Fe'i henwir ar ôl Afon Ruhr, un o lednentydd Afon Rhein, sy'n llifo trwyddi. Mae'n cynnwys cyfres o ddinasoedd sydd wedi ymdoddi i mewn i'w gilydd. Cafodd yr ardal ei llunio yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 19eg ganrif. Dyw'r Ruhr ddim yn cyfateb i unrhyw uned gweinyddol penodol, felly dyw ffiniau'r ardal ddim wedi'u diffinio'n swyddogol. Y prif ddinasoedd yw Bochum, Dortmund, Duisburg, Essen, Gelsenkirchen, Mülheim an der Ruhr ac Oberhausen. Mae'r holl ardal yn cael ei gweinyddu fel rhan o dalaith Nordrhein-Westfalen.

Ardal y Ruhr
MathCytref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Ruhr Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,572,745 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNordrhein-Westfalen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd4,435 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5°N 7.5°E Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)136,000 million € Edit this on Wikidata
Map o ardal y Ruhr

Prif ddinasoedd a threfi golygu

 
Pont (a thraffordd) "Mintarder Ruhrtalbrücke" yn Mülheim an der Ruhr - nodwedd amlwg yn nyffryn y Ruhr, sy'n cysylltu dinasoedd Düsseldorf ac Essen.