Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen

Mae Gwlad Iorddonen wedi'i rannu'n ddeuddeg o ardaloedd llywodraethol (muhafazah ), sy'n cael eu penu gan y Weinyddiaeth Fewnol. Ym 1994, crëwyd pedair ardal lywodraethol newydd: Jerash, Ajloun, Madaba ac Aqaba. Cafodd Ardal Lywodraethol Jerash ac Ardal Lywodraethol Ajloun eu creu allan o rannau o Ardal Lywodraethol Irbid, torrwyd Ardal Lywodraethol Madabaallan o Ardal Lywodraethol Aman a thynnwyd Ardal Lywodraethol Aqaba allan o Ardal Lywodraethol Ma'an. Rhennir llywodraeth leol ymhellach i ardaloedd (liwa) ac yn aml yn is-ardaloedd (qda).[1]

Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen
Enghraifft o'r canlynolenw un tiriogaeth mewn gwlad unigol Edit this on Wikidata
Mathmuhafazah, administrative territorial entity of Jordan, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daearyddiaeth golygu

Yn ddaearyddol, mae Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen wedi'u lleoli mewn un o dri rhanbarth: Rhanbarth y Gogledd, y Rhanbarth Canolog a Rhanbarth y De. Nid yw'r tri rhanbarth daearyddol yn cael eu dosbarthu yn ôl ardal neu boblogaethau ond yn hytrach gan gysylltedd daearyddol a phellter ymhlith y canolfannau poblogaeth. Mae Mynyddoedd Moab yn Ardal Lywodraethol Karak yn gwahanu Rhanbarth y De o'r Rhanbarth Canolog. Mae canolfannau poblogaeth Rhanbarth y Canolbarth a'r Gogledd yn cael eu gwahanu'n ddaearyddol gan fynyddoedd Ardal Lywodraethol Jerash. Yn gymdeithasol, mae canolfannau poblogaeth Amman, Salt, Zarqa a Madaba yn ffurfio un ardal fetropolitan fawr le mae rhyngweithiadau busnes yn y dinasoedd hyn o dan ddylanwad Amman tra bod dinasoedd Jerash, Ajlwn, a Mafraq yn bennaf o dan ddylanwad dinas Irbid.

Map Prifddinas Poblogaeth
Rhanbarth y Gogledd
1 Irbid Irbid 1,770,158
2 Ajloun Ajlwn 176,080
3 Jerash Jerash 237,059
4 Mafraq Mafraq 549,948
Y Rhanbarth Canolog
5 Balqa Al-Salt 491,709
6 Madaba Madaba 189,192
7 Amman Amman 4,007,256
8 Zarqa Zarca 1,364,878
Rhanbarth y De
9 Karak Al-Karak 316,629
10 Tafila Tafila 96,291
11 Ma'an Ma'an 144,083
12 Aqaba Aqaba 188,160
Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen
Ardal Lywodraethol Maint[2] (km²) poblogaeth[3] Trefol[3] Gwledig[3] Dwysedd[2] (pobl/km²) 2015 MDD[4]
Prifddinas
1 Irbid 1,572 1,137,100 943,000 194,100 723.4 0.740 Irbid
2 Ajloun 420 146,900 111,500 35,400 350.1 0.742 Ajlwn
3 Jerash 410 191,700 120,100 71,600 467.8 0.734 Jerash
4 Mafraq 26,551 300,300 117,800 182,500 11.3 0.717 Mafraq
Rhanbarth y Gogledd 28,953 1,776,000 1,292,400 483,600 61.3
5 Balqa 1,120 428,000 307,400 120,600 382.0 0.739 Salt
6 Amman 7,579 2,473,400 2,325,500 147,900 326.3 0.752 Amman
7 Zarqa 4,761 951,800 899,800 52,000 199.9 0.731 Zarca
8 Madaba 940 159,700 114,000 45,700 170.0 0.735 Madaba
Y Rhanbarth Canolog 14,400 4,012,900 3,646,700 366,200 278.7
9 Karak 3,495 249,100 87,200 161,900 71.3 0.739 Al Karak
10 Tafilah 2,209 89,400 63,800 25,600 40.5 0.731 Tafilah
11 Ma'an 32,832 121,400 66,600 54,800 3.7 0.698 Ma'an
12 Aqaba 6,905 139,200 119,700 19,500 20.2 0.739 Acaba
Rhanbarth y De 45,441 599,100 337,300 261,800 13.2
Cyfanswm 88,794 6,388,000 5,276,400 (82.6%) 1,111,600 (17.4%) 71.9 0.741 Amman

Cyfeiriadau golygu

  1. "Annex B: Analysis of the municipal sector" (PDF). Third Tourism Development Project, Secondary Cities Revitalization Study. Ministry of Antiquities and Tourism, Hashemite Kingdom of Jordan. 24 Mai 2005. t. 4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 19 April 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 "Estimated Population of the Kingdom, Area (Km2) and Population Density by, at End-year 2012" (PDF). Department of Statistics - Jordan. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-12-27. Cyrchwyd 27 December 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Estimated Population of the Kingdom by Urban* and Rural, at End-year 2012" (PDF). Department of Statistics - Jordan. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-12-27. Cyrchwyd 27 December 2013.
  4. "Sub-national HDI - Area Database - Global Data Lab". hdi.globaldatalab.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-09-17.