Tarian sydd yn darlunio llew euraid dywal ar gefndir coch a choeden faobab ar gefndir melyn yw arfbais Senegal. Amgylchynir gan dorch o ddail palmwydd, gyda seren werdd ar y brig, yr un arwydd sydd ar y faner genedlaethol, a medal Urdd Genedlaethol y Llew ar y gwaelod, a sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Un Peuple, Un But, Une Foi.[1]

Arfbais Senegal

Cyfeiriadau golygu

  1. Siobhán Ryan et al. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 78.