Cyn bêl-droediwr Cymreig ydy Arfon Trevor Griffiths MBE[1] (ganwyd 23 Awst 1941). Rhwng 1959 a 1979 chwaraeodd dros Wrecsam, Arsenal a Chymru cyn mynd ymlaen i reoli Wrecsam a Crewe Alexandra.

Arfon Griffiths
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnArfon Trevor Griffiths
Dyddiad geni (1941-08-23) 23 Awst 1941 (82 oed)
Man geniWrecsam, Cymru
SafleCanol Cae
Gyrfa Ieuenctid
1957–1959Wrecsam
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1959–1961Wrecsam41(8)
1961–1962Arsenal15(2)
1962–1979Wrecsam550(112)
1975Seattle Sounders
(benthyg)
15(1)
Cyfanswm621(123)
Tîm Cenedlaethol
1971–1976Cymru17(6)
Timau a Reolwyd
1977–1981Wrecsam
1981–1982Crewe Alexandra
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Gyrfa chwarae golygu

Gwrthododd Griffiths gyfle i fynd ar dreial gyda Lerpwl a Sheffield Wednesday er mwyn arwyddo fel amatur â Wrecsam ym mis Mai 1957[2].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn erbyn Darlington yng Nghwpan FA Lloegr ym mis Tachwedd 1958[3], ac roedd yn aelod o dîm ieuenctid y clwb pan lwyddodd i ennill Cwpan Ieuenctid Cymru. Bu rhaid iddo ddisgwyl hyd nes y Tachwedd canlynol i chwarae i'r tîm cyntaf am yr ail dro, a hynny mewn gêm Gynghrair yn erbyn Reading gan gadw ei le yn y tîm am weddill y tymor a chodi Cwpan Cymru wrth i Wrecsam drechu Caerdydd yn y rownd derfynol.

Ym mis Chwefror 1961 talodd Arsenal £15,500 amdano a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gan golli 5-1 yn erbyn Wolverhampton Wanderers ar 22 Ebrill 1961[4]. Sgoriodd ddwywaith mewn 15 ymddangosiad i Arsenal cyn cael ei werthu yn ôl i Wrecsam am £8,000[3].

Llwyddodd i arwain Wrecsam i ddyrchafiad ym 1961-62 a 1969-70 yn ogystal â chodi Cwpan Cymru ar bedair achlysur ac roedd yn aelod allweddol o'r tîm gan lwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Gwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1975-76 cyn colli yn erbyn RSC Anderlecht. Gwnaeth 591 ymddangosiad yn y Gynghrair i Wrecsam, sy'n record i'r clwb, a sgoriodd 120 o goliau.

Gyrfa ryngwladol golygu

Er iddo chwarae yn Nhrydedd Adran y Gynghrair, cafodd Griffiths ei alw i garfan Cymru ym 1971 gan ennill ei gap cyntaf fel eilydd yn erbyn Tsiecoslofacia[5] yng ngemau rhagbrofol Euro 1972.

Er mynd ar daith Cymru i Tahiti, Seland Newydd a Maleisia ym 1971[3][6] ni chafodd ei ail gap tan gemau rhagbrofol Euro 1976 lle roedd yn aelod allweddol o'r tîm pan lwyddodd i gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Gyrfa rheoli golygu

Wrecsam golygu

Wedi chwarae o dan wyth rheolwr gwahanol yn Wrecsam, cymerodd Griffiths yr awenau yn ei ddwylo'i hun ym mis Mai 1977 yn dilyn ymddiswyddiad John Neal[3][7]. Llwyddodd i arwain Wrecsam i bencampwriaeth y Drydedd Adran ym 1977-78 a dod y rheolwr cyntaf yn hanes y clwb i sicrhau dyrchafiad i Ail Adran y Gynghrair Bêl-droed.

Ar 13 Mai 1981 ymddiswyddodd Griffiths yn dilyn anghydfod gyda bwrdd y clwb pêl-droed. Roedd y clwb wedi dweud wrth Griffiths bod raid iddo dorri'n ôl ar ei staff ac ar y tîm ieuenctid ond fe wrthododd wneud hynny a gadawodd y clwb[3].

Crewe Alexandra golygu

Cafodd ei benodi'n rheolwr ar Crewe Alexandra ym mis Awst 1981 gan dreulio tymor gyda'r clwb cyn ymddiswyddo ar 25 Hydref 1982.

Gwobrau golygu

Ym 1975 cafodd Griffiths ei urddo â gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru[8] ac ym 1976 cafodd yr MBE am ei wasnaeth i bêl-droed Cymreig ac mae hefyd yn aelod o Oriel Anfarwolion Wrecsam[9].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Arsenal History: Arfon Griffiths". Arsenal.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Dedication to Wrexham came at a cost to Arfon". Daily Post. 2008-07-14. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Peter Jones a Gareth M. Davies (1999). The Racecourse Robins: Adams To Youds. ISBN 0-952495-01-5.
  4. "Arsenal v Wolverhampton Wanderers, 22 Abrill 1961". 11v11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. ISBN 1-872424-11-2.
  6. "Non-cap international matches". Welsh Football Online. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. Ian Gwyn Hughes (2008-04-28). "The rise and fall of Wrexham". BBC Sport. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "BBC Wales Sport Personality winners". BBC Sport. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Wrexham AFC Hall of Fame". Wrexham AFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-16. Cyrchwyd 2015-12-05. Unknown parameter |published= ignored (help)
Rhagflaenydd:
Gareth Edwards
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1976
Olynydd:
Mervyn Davies a thîm Camp Lawn Cymru