Arglwyddiaeth Brycheiniog

Arglwyddiaeth Normanaidd Barwniaid y Mers oedd Arglwyddiaeth Brycheiniog a leolwyd yn Ne Cymru a'i Chanolbarth rhwng 1088 a 1535. Ei chanolfan weinyddol oedd Aberhonddu.

Arglwyddiaeth Brycheiniog
Enghraifft o'r canlynolarglwyddiaeth y Mers Edit this on Wikidata
Daeth i ben1535 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1088 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTeyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Arlwyddiaeth Normanaidd oedd Arglwyddiaeth Brycheiniog; am yr hen deyrnas Gymreig, gweler Teyrnas Brycheiniog.

Concwest 1070–93 golygu

Yn weinyddol, gorchfygwyd tiroedd Brycheiniog rhwng 1070 a 1093 gan Bernard de Neufmarché a William FitzOsbern Iarll cyntaf Henffordd, pan drechwyd tri tri o frenhinoedd De Cymru a Rhys ap Tewdwr, (bu farw 1093) yn frenin teyrnas Deheubarth.[1]

Sefydlodd Bernard de Neufmarché ei hun yn Arglwydd Brycheiniog.[2] Dewisiodd y tir uchel ger tref Aberhonddu - rhwng cymer afonydd Wysg a Honddu - yn ganolfani'w arglwyddiaeth newydd. Adeiladodd gastell mwnt a beili yn 1093 ac ychwanegwyd ato gan ei gryfhau'n arw dros y canrifoedd. Sefydlodd Bernard Briordy Benedictaidd a elwir heddiw yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ac eglwys a gysegrwyd i Ioan yr Efengylydd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Nelson, Lynn H. (1966). "The Normans in South Wales". Carrie: A Full-Text Electronic Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2007-08-21.
  2. Gwyddoniadur Cymru tud. 8. Gwasg y Brifysgol; 2008.