Safle brwydr dyngedfennol yn yr Hen Ogledd oedd Argoed Llwyfain (hefyd Argoed Llwyfein). Ceir hanes y frwydr mewn awdl o waith Taliesin a gedwir yn Llyfr Taliesin. Mae ei union leoliad yn ansicr, ond cynigir safle yn nyffryn afon Eden, Cumbria. Ymddengys fod yr enw Llwyfain yn gysylltiedig ag enw yr ardal Llwyfenydd, yn nhiriogaeth Rheged.[1]

Argoed Llwyfain
Enghraifft o'r canlynolgwrthdaro Edit this on Wikidata
Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Argoed.

Yn ôl yr awdl 'Gweith Argoet Llwyfein' ("Brwydr Argoed Llwyfain") gan Daliesin, ymladdwyd y frwydr enwog ryw 'bore dydd Sadwrn' rhwng lluoedd gwŷr Rheged, dan arweiniad Urien Rheged a'i fab Owain, a llu o elynion (Eingl-Sacsoniaid o Frynaich efallai) dan arweiniad Fflamddwyn. Roedd byddin Fflamddwyn wedi'i threfnu yn bedair adran. Parodd am ddiwrnod cyfan ac enillodd y Brythoniaid fuddugoliaeth ysgubol. Gadawyd nifer o gyrff yr ymosodwyr ar faes y gad yn fwyd i'r brain:

A rhag gwaith Argoed Llwyfain
Bu llawer celain;
Rhuddai frain rhag rhyfel gwŷr.[2]

Mae'n debyg i'r frwydr gael ei hymladd tua chanol y 6g, ond ni ellir ei dyddio'n fanylach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), rhagymadrodd.
  2. Canu Taliesin, 6.20-22. Diweddarwyd yr orgraff.