Argraffu 3D

peiriant sy'n creu neu'n gwneud copi o wrthrych (model) drwy roi haen ar ben haen o ddefnydd

Argraffu 3D yw'r broses o greu gwrthrych 3 dimensiwn solad o unrhyw siap allan o fodel digidol. Ychwanegir haenau o ddefnydd nes ffurfio'r siap a gynlluniwyd ar gyfrifiadur.[1] Y gwahaniaeth pennaf rhwng y math hwn o argraffu a'r dull confensiynol yw fod argraffu 3D yn ychwanegu defnydd tra bod argraffu traddodiadol yn tynnu defnydd drwy ei dorri neu ei ddrilio. Mae'r argraffydd 3D yn fath o robot diwydiannol syml wedi'i reoli gan gyfrifiadur.

Argraffu 3D
Argraffydd ORDbot Quantum 3D.
Enghraifft o'r canlynolproses gynhyrchu, list of manufacturing processes Edit this on Wikidata
Mathproses peirianyddol, peirianneg cynhyrchu, additive manufacturing Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebpeiriannu Edit this on Wikidata
Cynnyrchcyfarpar gwaith, gwrthrych 3-dimensiwn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Fideo o wrthrych hyperboloid a gynlluniwyd gan George W. Hart) wedi'i wneud o Asid Polylactic PLA drwy ddefnyddio argraffydd RepRap "Prusa Mendel" 3D.
Defnyddiwyd y term 'Gwydd 3D' yn hytrach nag 'Argraffydd 3D', mewn erthygl yn Y Cymro ar 18 Mehefin 1969.

Crewyd yr argraffydd 3D cyntaf ym 1984 gan Chuck Hull o gwmni 3D Systems Corp.[2] Cymhwyswyd argraffu 3D ar y cychwyn ar gyfer prototeip ar ddechrau'r 1980au ac er y sylweddolwyd cryfder a photensial y dull hwn fe gymerodd sawl degawd i gael y dechnoleg yn ei lle; cychwynwyd mas-gynhyrchu nwyddau yn y 2010au pan welwyd llawer o argraffyddion AM yn cael eu gwerthu am brisiau gymharol isel.[3] Yn ôl Wohlers Associates roedd y farchnad ar eu cyfer yn werth $2.2 biliwn ledled y byd yn 2012 - 29% yn uwch nag amcangyfrif y flwyddyn flaenorol.[4]

Defnyddir cynnyrch wedi'u creu drwy argraffyddion 3D mewn pensaerniaeth, cynllunio diwydiannol, ceir, awyrenau, y fyddin, deintyddiaeth, dillad, addysg, bwyd a llawer iawn o feysydd eraill. Mae Grŵp Cymwysiadau Meddygol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn defnyddio'r dechneg i adeiladau prostheses.[5][6]

O fewn diwydiant, mae cynllunwyr a gwneuthurwyr yn defnyddio math sy'n uno'r ddau ddull o dynnu ac ychwanegu haenau gydag un peiriant.[7][8] O ddefnyddio cod agored credir fod potesial aruthrol i'r cwsmer safio arian drwy greu ei gyfarpar ei hun yn hytrach na thalu amdano i drydydd person ac am gost cludiant.[9][10]

Cyfeiriadau golygu

  1. "3D Printer Technology – Animation of layering". Create It Real. Cyrchwyd 2012-01-31.
  2. "3D Printing: What You Need to Know". PCMag.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-08. Cyrchwyd 2013-10-30.
  3. Sherman, Lilli Manolis. "3D Printers Lead Growth of Rapid Prototyping (Plastics Technology, August 2004)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-23. Cyrchwyd 2012-01-31.
  4. "3D printing: 3D printing scales up". The Economist. 2013-09-07. Cyrchwyd 2013-10-30.
  5. ISSUU "Horizons". Adalwyd 1 Mehefin 2014
  6. BBC News "Pioneering 3D printing reshapes patient's face in Wales", 12 Mawrth 2014. Adalwyd 1 Mehefin 2014
  7. Zelinski, Peter (2013-11-08), "Hybrid machine combines milling and additive manufacturing", Modern Machine Shop, http://www.mmsonline.com/blog/post/hybrid-machine-combines-milling-and-additive-manufacturing, adalwyd 2014-06-02.
  8. Zelinski, Peter (2014-02-21), "The capacity to build 3D metal forms is a retrofittable option for subtractive CNC machine tools", Modern Machine Shop Additive Manufacturing supplement, http://www.additivemanufacturinginsight.com/articles/add-on-additive-manufacturing, adalwyd 2014-06-02.
  9. Kelly, Heather (31 Gorffennaf 2013). "Study: At-home 3D printing could save consumers 'thousands'". CNN.
  10. doi:10.1016/j.mechatronics.2013.06.002
    This citation will be automatically completed in the next few minutes. You can jump the queue or expand by hand

Cysylltiadau allanol golygu