Ariel yw'r ddeuddegfed o loerennau Wranws a wyddys:

Ariel
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Wranws, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs1.353 ±0.12 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod24 Hydref 1851 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPixie Chasma Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0012 Edit this on Wikidata
Radiws578.9 ±0.6 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cylchdro: 190,930 km oddi wrth Wranws

Tryfesur: 1158 km

Cynhwysedd: 1.27e21 kg

'Ariel' yw'r ysbryd awyr direidus yn y ddrama The Tempest gan Shakespeare.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan William Lassell ym 1851.

Mae Ariel a Thitania'n ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Titania'n 35% yn fwy. Mae Ariel - fel gweddill lloerennau mawr Wranws - wedi ei chyfansoddi o 40-50% dŵr a 50-60% deunydd creigiog.

Mae arwyneb Ariel yn gymysgedd o graterau a dyffrynnoedd rhyng-gysylltiedig sy'n gannoedd o gilomedrau o hyd a mwy na 10 km o ddyfnder. Mae hynny'n debyg i, ond yn fwy, na'r sefyllfa ar Ditania. Ymddengys rhai o'r craterau i fod wedi hanner eu tansuddo. Mae arwyneb Ariel yn gymharol ifanc; yn amlwg mae rhyw broses o adnewyddu'r arwyneb ar waith. Mae rhai o'r trumiau yng nghanol y dyffrynnoedd yn cael eu hystyried yn ymchwyddiadau iâ.

Gallai Ariel wedi bod yn boeth o'i mewn yn y gorffennol, ond bellach mae hi'n oer. Gallai'r dyffrynnoedd fod yn graciau a ffurfiwyd wrth i Ariel oeri.