Arnau de Vilanova

meddyg, diplomydd, diwinydd, athronydd (1258-1313)

Ffisegwr a diwygiwr crefyddol o Gatalonia oedd Arnau de Vilanova (Sbaeneg: Arnaldus de Villa Nova hefyd Arnaldus Villanovanus c. 1240–1311). Credwyd (yn anghywir) ar un cyfnod ei fod hefyd yn seryddwr ac yn alcemegydd.

Arnau de Vilanova
Ganwydc. 1240, 1258 Edit this on Wikidata
Grau (Valencia), Villanueva de Jiloca Edit this on Wikidata
Bu farw1311, 1313 Edit this on Wikidata
Genova Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCoron Aragón Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Montpellier Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, athronydd, meddyg, diplomydd, alchemydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Montpellier Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRegimen sanitatis ad regem Aragonum Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Villanueva de Jiloca (neu o bosibl yn ninas Valencia), Aragon. Astudiodd meddygaeth a diwynyddiaeth. Preswyliodd yn y Llys Brenhinol (neu 'Goron Aragon') gan ddysgu myfyrwyr am rai blynyddoedd yn Ysgol Meddygol Montpellier cyn teithio i Baris. Bu farw yn 1311 ar ei ffordd i Avignon i gyfarfod y Pab Clement V ger arfordir Genova.[1]

Cyfieithodd weithiau meddygol o'r Arabeg, gan gynnwys gwaith gan Ibn Sina (Avicenna), Abu-l-Salt, a Galen.[2] Mae hefyd yn awdur gweithiau sylweddol e.e. Speculum medicinae a Regimen sanitatis ad regem Aragonum, ond ni ddylid ystyried Breviarium Practicae iddo, bellach. Ysgrifennodd hefyd yn Lladin ac mewn Catalaneg am ddiwygio Cristnogaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Fernando Salmón (2010). Robert E. Bjork (gol.). The Oxford Dictionary of the Middle Ages. Oxford, England: Oxford University Press. t. 135. ISBN 978-0-19-866262-4.
  2. D. Campbell, Arabian Medicine and Its Influence on the Middle Ages, tud. 5.