Arthur Hugh Clough

ysgrifennwr, bardd (1819-1861)

Bardd Seisnig yn ystod Oes Fictoria oedd Arthur Hugh Clough (1 Ionawr 181913 Tachwedd 1861).

Arthur Hugh Clough
Darluniad o Arthur Hugh Clough o 1860.
Ganwyd1 Ionawr 1819 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw13 Tachwedd 1861 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadJames Butler Clough Edit this on Wikidata
MamAnne Perfect Edit this on Wikidata
PriodBlanche Mary Shore Smith Edit this on Wikidata
PlantBlanche Clough Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Lerpwl, ac aeth i Ysgol Rugby cyn iddo ennill ysgoloriaeth i Goleg Balliol, Rhydychen. Ei fwriad ar y cychwyn oedd i hyfforddi ar gyfer gyrfa glerigol yn Eglwys Loegr, ond gadawodd y brifysgol am iddo gwestiynu ei ffydd. Fe'i penodwyd yn bennaeth ar Neuadd y Brifysgol, Llundain, ym 1849. Ym 1852 cafodd ei wahodd gan Ralph Waldo Emerson i dreulio sawl mis yn darlithio ym Massachusetts, Unol Daleithiau America. Yn ddiweddarach, gweithiodd i adran addysg y llywodraeth a chynorthwyodd Florence Nightingale wrth ei gwaith dyngarol. Ar daith i'r Eidal cafodd ei heintio gan falaria, a bu farw yn Fflorens yn 42 oed.[1]

Mae barddoniaeth Clough yn mynegi sgeptigiaeth grefyddol—pwnc poblogaidd yn llên Lloegr yng nghanol y 19g—a hynny mewn modd eironig braidd. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd nifer o'i gerddi yn y gyfrol Poems (1862), a fu'n hynod o boblogaidd. Roedd yn gyfaill i Matthew Arnold, a chyfansoddodd Arnold yr alargerdd "Thyrsis" er cof amdano.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Arthur Hugh Clough. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Awst 2022.