Ceir sawl ystyr i'r gair arwr (benywaidd: arwres). Daw'r gair Cymraeg o'r rhagddodiad ar-, sy'n cryfhau'r ystyr, a'r enw gŵr 'rhyfelwr'; 'gwron' neu 'rhyfelwr dewr' yw prif ystyr y gair mewn Cymraeg Canol. Yn nhermau mytholeg, gan darddu o'r defnydd o'r gair hero ym mytholeg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, mae arwr yn gymeriad dwyfol neu led-ddwyfol wedi ei ddonio â nerth neu ddawn anghyffredin; Heracles (Ercwlff) oedd un o'r enwocaf o arwyr y byd Clasurol. Yn fwy cyffredinol, datblygodd y gair i olygu unrhyw un sy'n ddewr neu sy'n barod i aberthu ei hun er mwyn eraill. Gall olygu prif gymeriad cerdd neu nofel yn ogystal. Erbyn heddiw mae'r defnydd o'r gair wedi dirywio cymaint fel bod pobl fel pêl-droedwyr sy'n achub gêm yn cael eu disgrifio fel "arwyr".

Arwr
Delwedd:George Frederick Watts, 1860-62, Sir Galahad, oil on canvas, 191.8 x 107 cm, Harvard Art Museums, Fogg Museum.jpg, James Bond at Madame Tussauds, London.jpg
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, literary archetype, stereoteip Edit this on Wikidata
Mathbod dynol a all fod yn chwedlonol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebvillain, Heroine Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Syr Galahad, un o arwyr cylch Arthur

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


Chwiliwch am arwr
yn Wiciadur.