Cyfansoddyn cemegol ydy asid lactig, neu i ddefnyddio'i enw systematig, 2-hydroxypropanoic acid. Mae'n chwarae rôl eitha allweddol mewn prosesau biocemegol e.e. wrth droi llaeth yn llaeth enwyn. Cafodd ei ddiffinio'n gyntaf yn 1780 gan gemegydd o Sweden, sef Carl Wilhelm Scheele. Asid carbocsylig ydyw gyda fformiwla cemegol o C3H6O3. Mae ganddo grŵp heidrocsil y drws nesaf i'r grŵp carbocsil sy'n ei wneud yn asid alffa heidrocsil (AHA). Mewn ffurf hylif, gall golli proton o'r grŵp asidig, gan gynhyrchu ion 'lactate' CH3CH(OH)COO. Mae'n hydoddi mewn dŵr neu mewn ethanol ac yn heigroscopig.

Asid lactig
Enghraifft o'r canlynolpar o enantiomerau Edit this on Wikidata
Mathalpha hydroxy acid, hydroxy fatty acid, fatty alcohol Edit this on Wikidata
Màs90.031694 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₃h₆o₃ edit this on wikidata
Clefydau i'w trinDermatosis gwynebol, dermatitis edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Asid lactig

Asid lactig mewn bwyd golygu

Mewn bwyd y ceir hyd i asid lactig fynychaf, mewn llaeth enwyn, iogwrt, ceffir a rhai mathau o gawsiau megis caws gwyn (caws colfran).