Ymerawdwr Ymerodraeth y Maurya yn India o 268 CC hyd 231 CC oedd Asoka, hefyd Ashoka, a elwir yn Asoka Fawr. Roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r hyn sy’n awr yn Affganistan hyd Bengal ac i’r de cyn belled a Mysore.

Asoka
Ganwyd304 CC Edit this on Wikidata
Patna Edit this on Wikidata
Bu farw232 CC Edit this on Wikidata
Patna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMaurya empire, India Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ymerawdwr, Bhikkhu Edit this on Wikidata
SwyddMauryan Emperor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSiddhartha Gautama Edit this on Wikidata
TadBindusara Edit this on Wikidata
MamSubhadrangi Edit this on Wikidata
PriodTishyaraksha, Karuvaki, Devi, Padmavati, Asandhimitra Edit this on Wikidata
PlantKunala, Mahinda, Sangamitta, Tivala, Charumati Edit this on Wikidata
PerthnasauChandragupta Maurya Edit this on Wikidata
LlinachMaurya dynasty Edit this on Wikidata
Ymerodraeth Asoka

Ystyr ei enw yn yr iaith Pali yw “rhydd o ofalon”. Roedd yn fab i’r ymerawdwr Bindusara a’i wraig Dhamma, ac yn wyr i .Chandragupta Maurya.Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwad Bwdhaeth ac ymwrthododd a rhyfel.

Yn 250 CC, cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawdd Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwys Bactria, Nepal, Myanmar, Gwlad Tai a Sri Lanca, ac efallai cyn belled ag Alexandria yn yr Aifft, Antioch ac Athen.

Daeth colofn o waith Asoka, a ddarganfuwyd yn Sarnath, yn arwyddlun cenedlaethol India, a cheir llun o ran ohoni ar faner India.

Chwedlau golygu

Tyfodd cylch o chwedlau am Asoka a gafodd ddylanwad mawr yn y gwledydd Bwdhaidd. Ceir testunau cynnar o'r chwedlau hyn yn yr ieithoedd Pali a Sansgrit. Mae'n debyg fod rhai ohonynt wedi cael eu trosglwyddo ar lafar cyn hynny hefyd. Y testun mwyaf dylanwadol ac adnabyddus yw'r Asokavadana (Sansgrit, yn golygu 'Buchedd Asoka') a ysgrifennwyd yn y 3g OC yn India.

Llyfryddiaeth golygu

  • John S. Strong (gol.), The Legend of King Asoka[:] A Study and Translation of the Asokavadana (Gwasg Prifysgol Princeton, 1983; argraffiad newydd gan Motilal Bansidarss, Delhi, 1989). ISBN 81-208-0616-6