Athroniaeth ddadansoddol

Athroniaeth sy'n pwysleisio iaith a rhesymeg wrth ddadansoddi cysyniadau yw athroniaeth ddadansoddol. Gall y term gyfeirio'n fwy penodol at fudiad amlwg yn athroniaeth y gwledydd Saesneg eu hiaith ac yn Llychlyn a darddodd o'r traddodiad empiraidd. Datblygodd sawl system athronyddol dadansoddol yn yr 20g, gan gynnwys atomiaeth resymegol, positifiaeth resymegol, a dadansoddiad iaith gyffredin.

Athroniaeth ddadansoddol
Enghraifft o'r canlynolmudiad athronyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fe'i chyferbynnir yn ei hanfod ag athroniaeth ddamcaniaethol a metaffiseg, ac fel mudiad neu gylch o ysgolion meddwl fe'i chyferbynnir ag athroniaethau cyfandirol megis ffenomenoleg a dirfodaeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.