Pâr o orsafoedd ynni niwclear yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Atomfa Dungeness. Fe'i lleolir ar bentir Dungeness ar arfordir deheuol Lloegr. Dim ond un o'r orsafoedd sy'n dal i weithredu.

Atomfa Dungeness
Mathset of physical objects Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLydd
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.9139°N 0.9639°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganMagnox Ltd Edit this on Wikidata
Map

Atomfa Magnox oedd Dungeness A, a gafodd ei chysylltu â'r Grid Trydan Cenedlaethol ym 1965 a pheidiodd â gweithredu yn 2006. Mae wrthi'n cael ei ddigomisiynu.

Mae Dungeness B yn orsaf bŵer adweithydd nwy-oeredig uwch (Advanced Gas-cooled Reactor, AGR) sy'n cynnwys dau adweithydd a ddechreuodd weithredu ym 1983 a 1985. Disgwylir y bydd yr orsaf hon yn gweithredu tan 2028, er y cafwyd dau gyfnod estynedig yn 2009 a 2018 pan gafodd ei thynnu allan o weithredu am resymau diogelwch.