August Wilhelm Schlegel

Ysgolhaig, beirniad llenyddol a theatr, bardd, a chyfieithydd Almaenig oedd August Wilhelm Schlegel (8 Medi 176712 Mai 1845).[1]

August Wilhelm Schlegel
Portread o August Wilhelm Schlegel gan Adolf Hohneck.
Ganwyd8 Medi 1767 Edit this on Wikidata
Hannover Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1845 Edit this on Wikidata
Bonn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Hannover Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, cyfieithydd, ysgolhaig Sansgrit, athronydd, bardd, beirniad llenyddol, hanesydd llenyddiaeth, Rhufeinydd, dramodydd, academydd, academydd mewn Sanskrit, ysgrifennwr, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Cyflogwr
MudiadRhamantiaeth, German Romanticism, Jena Romanticism Edit this on Wikidata
TadJohann Adolf Schlegel Edit this on Wikidata
PriodCaroline Schelling Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Hannover, Etholyddiaeth Hannover, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd yn Göttingen, a gyda'i frawd Friedrich Schlegel golygydd Das Athenäum (1798–1800), prif gyfnodolyn y mudiad Rhamantaidd Almaenig a fu'n cyhoeddi gwaith Novalis ac eraill.

Bu August Wilhelm Schlegel yn enwog yn bennaf am ei gyfieithiadau barddonol o ddramâu William Shakespeare, ar y cyd â Ludwig Tieck ac eraill, ac am ei gyfres o ddarlithoedd Über dramatische Kunst und Literatur (1809–11), y rheiny a droswyd i'r Saesneg (Lectures on Dramatic Art and Literature, 1815) gan John Black ac a gâi gymaint o ddylanwad ar y bardd William Wordsworth a'r beirniad William Hazlitt. Tynnodd Samuel Taylor Coleridge ar syniadau a rhannau o waith Schlegel, heb gydnabyddiaeth, yn ei gyfres o ddarlithoedd ym 1811.

Bu farw August Wilhelm Schlegel yn Bonn, Teyrnas Prwsia, yn 77 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) August Wilhelm von Schlegel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2021.