Avatar (ffilm 2009)

Ffilm epig ffuglen wyddonol Americanaidd o 2009 yw Avatar. Fe'i hysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan James Cameron ac mae'n serennu Sam Worthington, Zoe Saldana, Sigourney Weaver, Michelle Rodriguez, a Stephen Lang. Gosodir y ffilm yn y flwyddyn 2154 ar Pandora, lloeren yn y system serol Alpha Centauri.[4] Mae bodau dynol yn mwyngloddio mwyn gwerthfawr ar Pandora, tra bo'r Na'vi—hil led-ddynol frodorol—yn gwrthsefyll ymlediad y gwladychwyr, sydd yn bygythio bodolaeth y Na'vi ac ecosystem Pandora. Cyfeiria teitl y ffilm at y cyrff, a greir gan ddefnyddio peirianneg enetig, a ddefnyddir gan gymeriadau'r ffilm i ryngweithio â'r Na'vi.[5]

''Avatar''

Poster theatraidd
Cyfarwyddwr James Cameron
Cynhyrchydd James Cameron
Jon Landau
Ysgrifennwr James Cameron
Serennu Sam Worthington
Zoe Saldana
Stephen Lang
Michelle Rodriguez
Giovanni Ribisi
Joel David Moore
C. C. H. Pounder
Wes Studi
Laz Alonso
Sigourney Weaver
Cerddoriaeth James Horner
Sinematograffeg Mauro Fiore
Golygydd James Cameron
John Refoua
Stephen E. Rivkin
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Lightstorm Entertainment
Dune Entertainment
Ingenious Film Partners
Dosbarthydd 20th Century Fox
Dyddiad rhyddhau 10 Rhagfyr 2009
(dangosiad cyntaf, Llundain)
18 Rhagfyr 2009
(Unol Daleithiau)
Amser rhedeg 162 munud[1]
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cyllideb $237,000,000[2]
Refeniw gros $1,335,040,297[3]

Dechreuodd Cameron ddatblygu Avatar ym 1994, pan ysgrifennodd scriptment 80 tudalen o hyd ar gyfer y ffilm.[6] Bwriadwyd i ffilmio ddechrau wedi cwblhad Titanic, ac yn ôl Cameron bydd y ffilm wedi'i rhyddhau ym 1999 os nad oedd "angen i dechnoleg dal lan" â'i weledigaeth o'r ffilm.[7][8] Ddechrau 2006, datblygodd Cameron y sgript, iaith y Na'vi,[9] a diwylliant Pandora. Awgrymodd Cameron bod dilyniannau yn bosib os yw Avatar yn llwyddiannus.[10][11][12]

Rhyddhawyd y ffilm mewn fformat 2-D traddodiadol, yn ogystal â fformatau 3-D ac IMAX 3D. Yn swyddogol cyllideb Avatar yw UD$237 miliwn;[2] mae amcangyfrifon eraill yn awgrymu cost o $280–310 miliwn i gynhyrchu a $150 miliwn am farchnata.[13][14][15] Honnir bod y ffilm yn bwysig yn nhermau technoleg gwneuthuriad ffilmiau, am ei datblygiad o olwg 3-D a gwneuthuriad ffilm stereosgopig gyda chamerâu a ddylunir yn arbennig at gynhyrchiad y ffilm.[16]

Rhyddhad golygu

Swyddfa docynnau golygu

Enillodd Avatar dim ond UD$3,537,000 ar ddangosiadau canol nos yn yr Unol Daleithiau a Chanada, yn rhannol oherywdd iddo gael ei dangos ar 2,200 o sgriniau 3-D yn unig.[17] Enillodd y ffilm $27 miliwn ar ei ddiwrnod agoriadol, a $77 miliwn dros ei benwythnos agoriadol yn yr Unol Daleithiau a Chanada, gan ei gwneud yn yr agoriad Rhagfyr ail fwyaf erioed, tu ôl i I Am Legend,[18][19] a'r agoriad penwythnos 25ain fwyaf yn yr Unol Daleithiau,[18] er gwaethaf lluwchwynt wnaeth gorchuddio Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau dan drwch o eira ac yn ôl adroddiadau wnaeth niweidio'i phenwythnos agoriadol.[13][19][20] O ran marchnadoedd rhyngwladol, cynhyrchwyd cyfansymiau o leiaf $10 miliwn ar benwythnosau agoriadol yn Rwsia ($20.8 miliwn), Ffrainc ($20.3 miliwn), y DU ($14.1 miliwn), yr Almaen ($13.2 miliwn), Awstralia ($11.9 miliwn), De Corea ($11.4 miliwn), a Sbaen ($10.9 miliwn).[21] Enillion gros byd-eang Avatar oedd amcan o $232,180,000 ar ôl tridiau,[18][20] y gros penwythnos-agoriadol nawfed fwyaf erioed, a'r mwyaf am ffilm wreiddiol nad oedd yn ddilyniant nac yn rhan o gyfres.[18] Gostyngodd refeniwau'r ffilm gan ddim ond 1.9% yn ei hail benwythnos ym marchnadoedd yr Unol Daleithiau a Chanada, wrth ennill $75,589,048 i aros ar frig y swyddfa docynnau.[22] Torrodd y ffilm record The Dark Knight am yr ail benwythnos mwyaf erioed.[23] Bu gostyngiad bychan arall mewn refeniw y ffilm yn ei thrydydd benwythnos, gan ostwng 9.7% am amcangyfrif o $68,300,000 yn yr Unol Daleithiau a Chanada, unwaith eto wrth aros #1 yn y swyddfa docynnau,[22] ond llwyddodd i dorri record hirsefydlog Spider-Man o $45,036,912 fel y drydydd benwythnos â'r gros uchaf erioed.[24] Ar yr 17th ddiwrnod o ryddhad y ffilm, croesodd y marc $1 biliwn byd-eang gan ei gwneud yn y ffilm gyflymaf erioed i wneud hynny.[25] Ar ôl dim ond 24 diwrnod wedi iddi gael ei rhyddhau, roedd Avatar wedi grosio $429 miliwn yn yr Unol Daleithiau a Chanada, a 26 diwrnod wedi iddi gael ei ryddhau grosiodd $902 miliwn mewn tiriogaethau eraill, gyda chyfanswm byd-eang o $1.331 biliwn.[3][18] Avatar yw'r ail ffilm uchaf ei gros byd-eang erioed,[26] a'r seithfed ffilm uchaf ei gros erioed yn yr Unol Daleithiau a Chanada (heb ei newid am chwyddiant).[27]

Derbyniad beirniadol golygu

Yn gyffredinol derbyniodd Avatar adolygiadau ffafriol gan adolygwyr ffilm. Yn ôl y cydgrynhöwr adolygiadau Rotten Tomatoes, rhoddwyd adolygiad positif o'r ffilm gan 82% o 243 o adolygwyr proffesiynol, gyda marc cyfartalog o 7.4 allan o 10.[28] Ymhlith Top Critics Rotten Tomatoes, sy'n cynnwys adolygwyr nodedig a phoblogaidd o'r prif bapurau newydd, gwefannau, a rhaglenni teledu a radio,[29] mae gan y ffilm marc cymeradwyaeth hyd yn oed well o 87%, yn seiliedig ar sampl o 15 o adolygiadau.[30] Y farn gyffredin ar y wefan yw bod y ffilm "efallai yn fwy nodedig ar lefel dechnegol na fel stori, ond mae Avatar yn ailddatgan dawn unigryw James Cameron o wneud ffilmiau dychmygus a diddorol".[28] Ar Metacritic, sydd yn rhoi marc normaleiddiedig allan o 100 yn ôl adolygiadau ffilm a gasglir, mae gan Avatar sgôr o 84 yn seiliedig ar 35 o adolygiadau, sydd yn dynodi "canmoliaeth gan bawb".[31]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) BBFC rating and classification details for Avatar (8 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Patten, D. (3 Rhagfyr 2009). 'Avatar's' True Cost -- and Consequences. The Wrap. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Avatar. The Numbers. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  4. (Saesneg) "Family Filmgoer", The Boston Globe, NY Times Co., 24 Rhagfyr 2009.
  5. (Saesneg) Winters Keegan, Rebecca (11 Ionawr 2007). Q&A with James Cameron. Time. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
  6. (Saesneg) Jeff Jensen (10 Ionawr 2007). Great Expectations. Entertainment Weekly. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  7. Judy Hevrdejs. "Channel 2 has Monday morning team in place", Chicago Tribune, 9 Awst 1996.
  8. "Synthetic actors to star in Avatar", St. Petersburg Times, 12 Awst 1996.
  9. "Avatar Language". Nine to Noon. 15 Rhagfyr 2009.
  10. (Saesneg) Carroll, Larry (29 Mehefin 2006). 'Titanic' Mastermind James Cameron's King-Size Comeback: Two Sci-Fi Trilogies. MTV. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  11. Cyffredinol: http://www.boxofficemojo.com/alltime/world/.
  12. Dyddiad cyhoeddi: http://www.sfi.se/sv/svensk-filmdatabas/Item/?itemid=68935&type=MOVIE&iv=Basic. http://www.imdb.com/title/tt0499549/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2017. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. http://nmhh.hu/dokumentum/158984/2009_filmbemutatok_osszes.xls. http://www.zelluloid.de/filme/index.php3?id=7614. dyddiad cyrchiad: 13 Tachwedd 2017.
  13. 13.0 13.1 (Saesneg) Barnes, Brooks (20 Rhagfyr 2009). ‘Avatar’ Is No. 1 but Without a Record. The New York Times. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  14. (Saesneg) Ben Fritz (20 Rhagfyr 2009). Could 'Avatar' hit $1 billion?. Los Angeles Times. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  15. (Saesneg) Keegan, R. (22 Rhagfyr 2009). How Much Did Avatar Really Cost?. Vanity Fair. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  16. (Saesneg) James Cameron's 'Avatar' Film to Feature Vocals From Singer Lisbeth Scott. Newsblaze.com (29 Hydref 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  17. (Saesneg) Avatar Scores $3.5 Million at Midnight Screenings, Big Opening Day in Australia. The Numbers (18 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  18. 18.0 18.1 18.2 18.3 18.4 (Saesneg) Avatar 2009 box office. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  19. 19.0 19.1 (Saesneg) Douglas, Edward (21 Rhagfyr 2009). Avatar Soars Despite Heavy Snowstorms. Comingsoon.net. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  20. 20.0 20.1 (Saesneg) "Avatar" leads box office, despite blizzard. Reuters (20 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  21. (Saesneg) Segers, Frank (20 Rhagfyr 2009). 'Avatar' dominates int'l boxoffice. The Hollywood Reporter. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  22. 22.0 22.1 (Saesneg) Weekend Box Office: January 8-10, 2010 Weekend. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  23. (Saesneg) All Time Box Office: TOP WEEKENDS: 2ND – 12TH (2nd). Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  24. (Saesneg) All Time Box Office: TOP WEEKENDS: 2ND – 12TH (3rd). Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  25. (Saesneg) Avatar tops billion dollars, fastest ever: movie tracker. Yahoo News. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  26. (Saesneg) All time worldwide box office grosses. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  27. (Saesneg) All Time Box Office: DOMESTIC GROSSES. Box Office Mojo. Adalwyd ar 11 Ionawr 2010.
  28. 28.0 28.1 (Saesneg) Avatar. Rotten Tomatoes. IGN Entertainment, Inc. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
  29. (Saesneg) Rotten Tomatoes FAQ: What is Cream of the Crop. Rotten Tomatoes. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
  30. (Saesneg) Avatar Reviews: Top Critics. Rotten Tomatoes. IGN Entertainment, Inc. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.
  31. (Saesneg) Avatar (2009): Reviews. Metacritic. CNET Networks, Inc. Adalwyd ar 10 Ionawr 2010.