Avrom Goldfaden

cyfansoddwr a aned yn 1840

Llenor Iddewig o Ymerodraeth Rwsia oedd Avrom Goldfaden (24 Gorffennaf [12 Gorffennaf yn yr Hen Arddull] 18409 Ionawr 1908) a fu'n ddramodydd, bardd, a chyfansoddwr caneuon yn yr iaith Iddew-Almaeneg yn bennaf. Efe oedd y cyntaf i sefydlu cwmni theatraidd a chwaraedy ar gyfer perfformiadau drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg, a fe'i elwir felly yn "Dad y Theatr Iddew-Almaeneg Fodern".

Avrom Goldfaden
Abraham Goldfaden.
Ganwyd24 Gorffennaf 1840 Edit this on Wikidata
Starokostiantyniv Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1908 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Brenhiniaeth Rwmania Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, libretydd, cyfieithydd, bardd, ysgrifennwr, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDavid at War Edit this on Wikidata
ArddullTheatr Iddew-Almaeneg Edit this on Wikidata

Ganed yn Starokostiantyniv, Ymerodraeth Rwsia, a leolir heddiw yng ngorllewin yr Wcráin. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth yn Hebraeg ac yn Iddew-Almaeneg tra oedd yn astudio mewn coleg rabinaidd yn Zhytomyr, a graddiodd yno yn 1866. Gweithiodd yn athro yn Rwsia cyn iddo ymfudo i Wlad Pwyl yn 1875, ac yno fe sefydlodd ddau bapur newydd yn Iddew-Almaeneg. Cafodd sawl methiant yn ei yrfa newyddiadurol cyn iddo symud i Rwmania.[1]

Yn 1876, sefydlodd Goldfaden y theatr Iddew-Almaeneg gyntaf yn y byd a honno yn ninas Iaşi. Aeth ar dro gyda'i theatr drwy Rwmania a Rwsia, ac wedi i Ymerodraeth Rwsia wahardd perfformiadau Iddew-Almaeneg yn 1883 symudodd ei theatr i Warsaw. Ymfudodd i Unol Daleithiau America yn 1887 ac yn Efrog Newydd sefydlodd y cyfnodolyn darluniedig cyntaf yn Iddew-Almaeneg. Symudodd i Loegr yn 1889 i gymryd yr awenau yn theatr Iddew-Almaeneg Llundain, ond cafodd ei wrthwynebu gan yr actorion dan ei reolaeth.[1]

Ymsefydlodd Goldfaden o'r diwedd yn Efrog Newydd yn 1903, ac agorodd ysgol ddrama yno. Gosodir nifer o ddramâu Goldfaden i gerddoriaeth a gyfansoddwyd ganddo fe ei hun, ac am y rheswm honno fe'i ystyrir yn sefydlydd yr opera Iddew-Almaeneg yn ogystal â'r theatr Iddew-Almaeneg. Bu farw yn Efrog Newydd yn 67 oed.[1]

Bywyd cynnar ac addysg (1840–66) golygu

Ganed Avrom Goldfodem yn fab i oriadurwr yn Starokostiantyniv, Ymerodraeth Rwsia, a leolir heddiw yn Oblast Khmelnytskyi, Wcráin. Derbyniodd addysg Iddewig drylwyr, yn Hebraeg a ffydd ei bobl, a dysgodd hefyd yr ieithoedd Rwseg ac Almaeneg yn rhugl a chrap ar sawl pwnc seciwlar. Fe'i anfonwyd i ysgol wladwriaethol yn 15 oed er mwyn osgoi gorfodaeth filwrol, ac yno fe'i addysgwyd gan Abraham Baer Gottlober, ysgolhaig o draddodiad yr Haskalah ac awdur dychanol yn Hebraeg ac Iddew-Almaeneg. Câi gweithiau Gottlober, megis y gomedi wrth-Hasidig Der Dektukh, Oder Tsvey Khupes in Eyn Nakht, ddylanwad cryf ar ymdrechion llenyddol cynnar Goldfaden.[2]

Wedi iddo raddio o'r ysgol ym 1857, derbyniwyd Goldfaden i'r coleg rabinaidd yn Zhytomyr, ac yno, dan arweiniad goleuedigion eraill o'r Haskalah gan gynnwys E. Z. Zweifel ac H. S. Slonimsky—a Gottlober eto, wedi ei benodi'n hyfforddwr y Talmwd ym 1865—cyfansoddodd geiriau Hebraeg i ganeuon, a chyhoeddwyd y rhai cyntaf o'r rheiny yn y papur newydd Ha-Melitz ym 1862. Ymddangosodd ei farddoniaeth gyntaf yn Iddew-Almaeneg yn y cyfnodolyn Kol Mevasser ym 1863, a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth Hebraeg, Ẓiẓim u-Feraḥim, ym 1865 a'i gasgliad cyntaf o gerddi Iddew-Almaeneg, Dos Yudele, adeg ei raddio o'r coleg rabinaidd ym 1866. Byddai difyrwyr Iddewig yn addasu geiriau nifer o'r cerddi hwn at ganu gwerin a pherfformiadau'r badchen mewn cymunedau Iddew-Almaeneg.

Llenydda cynnar (1866–76) golygu

Yn ei ail gyfrol o lenyddiaeth Iddew-Almaeneg, Di Yidene (1869), mae dwy ymdrech gyntaf Goldfaden o ddramodi: sgetsh fer ar gyfer dau actor, a'r gomedi hir Di Mume Sosye, a ysgrifennwyd ar batrwm Serkele gan Solomon Ettinger.

Aeth Goldfaden i Lemberg yn Awstria-Hwngari (bellach Lviv, Wcráin), ac yno cyd-sefydlodd gylchgrawn digrif, Der Alter Yisrolik, gyda'i gyfoeswr o Zhytomyr, Yitzkhok Yoel Linetzky.

Sefydlu'r theatr Iddew-Almaeneg (1876–83) golygu

Symudodd Goldfaden i Dywysogaeth Rwmania ym 1876, ac ymsefydlodd yn Iași. Yno, daeth yn gyfarwydd â'r Broderzinger, cantorion Iddewig teithiol o Brody yn Awstria-Hwngari yn wreiddiol, a berfformiai ganeuon Iddew-Almaeneg, gan gynnwys cyfansoddiadau Goldfaden ei hun, mewn gwindai a gerddi yfed. Ysbrydolwyd Goldfaden i gyfuno'r fath ganu poblogaidd a dynwarediadau digrif gyda dialog rhyddieithol a stori ddramataidd, i'w actio ar y llwyfan. Yn Hydref 1876, lansiwyd y theatr Iddew-Almaeneg fodern gyda pherfformiadau cyntaf Israel Grodner a Sokher Goldstein, dan gyfarwyddiaeth Goldfaden, yng nghaffi Pomul Verde yn Iași.

Yn fuan, huriodd Goldfaden gerddorion crwydrol a chodwyr canu o synagogau fel actorion ychwanegol, ac aethant ar daith i ddinasoedd eraill yn Rwmania, gan gynnwys Bwcarést, ac ym 1878 sefydlodd y chwaraedy Iddew-Almaeneg cyntaf yn Odesa yn Rwsia (bellach Wcráin). Defnyddiodd Goldfaden gyfuniad o gyfansoddiadau ei hun, caneuon Iddewig (llafarganau'r synagog yn ogystal â'r traddodiad gwerin), a cherddoriaeth glasurol o operâu Eidalaidd a Ffrengig. Erbyn 1880 yr oedd ei gwmni theatraidd yn teithio ar draws Rwsia, ac ysgogwyd actorion a libretwyr eraill i fentro i lwyfannu perfformiadau Iddew-Almaeneg. Ymhlith ei gomedïau llwyddiannus o'r cyfnod cynnar hwn mae'r sioeau cerdd Shmendrik (1877), Di Kishefmakherin (1879), a Der Fanatik oder di Tsvey Kuni Leml (1880). Daeth ei ganeuon yn gyfarwydd i nifer o siaradwyr Iddew-Almaeneg, gan gynnwys hwiangerddi ("Rozhinkes mit Mandlen"), caneuon achlysurol ("Tsu Dayn Geburtstog" i ddathlu [[[pen-blwydd]]), a chaneuon damhegol ("A Pastekhl" am berthynas Duw â'r Iddewon),

Yn sgil pogromau yn erbyn cymunedau Iddewig yn Ymerodraeth Rwsia, gan gynnwys Odesa, yn 1881–84, troes gweithiau Goldfaden o ddifrif wrth iddo ystyried y bygythiadau i fywydau'r Iddewon yn Nwyrain Ewrop. Er enghraifft, Doktor Almosado (1882), sydd yn trawsosod y terfysgoedd gwrth-Iddewig i Palermo yn y 14g, a'r opera hanesyddol Bar Kokhba (1883) sydd yn portreadu gwrthryfel yr Iddewon yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig yn yr 2g.

Newid yn ei ffawd (1883–89) golygu

Blodeuai'r theatr Iddew-Almaeneg yn Rwsia nes i'r llywodraeth ei gwahardd ym 1883. Ymfudodd nifer o'r dramodwyr, actorion, a chynhyrchwyr i weithio mewn gwledydd eraill yn Ewrop ac i ymuno â chychwyniadau'r theatr Iddew-Almaeneg yn Unol Daleithiau America. Gwahoddwyd Goldfaden i Ddinas Efrog Newydd ym 1887, ac yno wynebai cystadleuaeth o gynhyrchwyr a dramodwyr toreithiog eraill megis Joseph Lateiner a Moyshe Hurwitz. Yn yr Unol Daleithiau, ysgrifennodd ei ddramâu Beiblaidd llwyddiannus Akeydes Yitskhok a Kenig Akhashveyresh, ond dychwelodd i Ewrop ymhen fawr o dro. Gweithiodd yn y Princess Club Theatr yn Llundain ym 1889 cyn symud i Paris ac yna i Lemberg.[2]

Diwedd ei oes (1889–1908) golygu

Yn sgil y pogromau yn nechrau'r 1880au, ymunodd Goldfaden â mudiad Hovevei Zion, a sefydlwyd i hyrwyddo ymfudo'r Iddewon i Balesteina. Wrth iddo heneiddio, cofleidiodd Goldfaden Seioniaeth—gwasanaethodd yn ddirprwy o Baris i'r Bedwaredd Gyngres Seionaidd yn Llundain ym 1900—a daeth yr ideoleg honno yn elfen amlwg o'i waith. Mae'r ddrama epig Meshiekhs Tsaytni!? (1891) a'i ddrama olaf Ben Ami (1907) yn ymwneud â chymeriadau sydd yn penderfynu taw Gwlad Israel yw mamwlad yr Iddewon. Teithiodd Goldfaden i Efrog Newydd yn niwedd 1907 pan oedd Ben Ami yn chwarae mewn theatrau'r ddinas, ac yno bu farw ar 9 Ionawr 1908, yn 67 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Avrom Goldfaden. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mawrth 2020.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Goldfaden, Abraham", Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 30 Tachwedd 2022.