Awdurdodau unedol yn Lloegr

awdurdod unedol yn Lloegr

Math o ardal llywodraeth leol yn Lloegr yw awdurdod unedol (Saesneg: unitary authority). Yn wahanol i'r system dwy haen o lywodraeth leol sy'n dal i fodoli yn y rhan fwyaf o Loegr, mae awdurdodau unedol yn cyfuno pwerau ardaloedd an-fetropolitan a chynghorau sir, ac maent yn gyfrifol am weithredu'r holl wasanaethau yn eu hardaloedd.

Cyfansoddwyd yr awdurdodau unedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1992, a ddiwygiodd Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i ganiatáu bodolaeth siroedd nad oes ganddynt sawl ardal. Ar y naill llaw maent yn caniatáu i ddinasoedd a threfi mawr gael awdurdodau lleol ar wahân i rannau llai trefol eu siroedd, ac ar y llaw arall maent yn caniatáu i siroedd bach lle byddai rhannu'n ardaloedd yn anymarferol gweithredu fel unedau. Sefydlwyd y mwyafrif yn ystod y 1990au, er i eraill gael eu creu yn 2009 a 2019–20.

Awdurdodau unedol Lloegr (dangosir mewn coch) ers 1 Ebrill 2023

Gweler hefyd golygu