Gwrthrych bychan creigiog neu fetalaidd sy'n teithio drwy'r gofod yw awyrfaen (hefyd gwibfaen a maen mellt; Saesneg: Meteoroid).[1] Pan fo'r maen (neu garreg) yn teithio drwy atmosffer y Ddaear, fe'i elwir yn seren wib. Cyfeiriodd R. Williams Parry ato, yn ei soned Y Llwynog, gan ei gyffelybu i chwinciad o amser, byr ei dro: 'Digwyddodd, darfu, megis seren wib'.

Awyrfaen
Mathminor planet Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Seren wib (superbolide), sef pelen o dân wedi i'r awyrfaen deithio i fewn i atmosffer y Ddaear gan ffrwydro uwch Chelyabinsk Oblast, Rwsia yn 2013.
Trawsdoriad o feteoryn a ddarganfuwyd yn yr Ariannin, wedi i'r awyrfaen deithio o'r gofod a thrwy atmosffer y Ddaear.

Mae'r awyrfaen dipyn yn llai nag Asteroid - o dan un fetr o hyd, ond yn fwy na gronyn o dywod.[2] 'Llwch gofod' (neu weithiau: micro-awyrfaen) yw unrhyw wrthrych llai na maint gronyn.[3]

Pan fo comed (neu 'neu seren gynffon'), asteroid neu awyrfaen yn teithio drwy atmosffer y Ddaear ar gyflymder o dros 20 km/eil (72,000 km/awr; 45,000 mya), mae'r gwres yn cynhyrchu cynffon o olau, o'r gwrthrych ei hun ac o'r llwch mae'n ei adael o'i ôl. Gelwir y ffenomen hon yn 'seren wib' (Saesneg: meteor). Weithiau ceir cyfres ohonynt (e.e. ar ddechrau Awst, yn flynyddol), a gelwir hyn yn 'gawod o sêr gwib'. Gall yr awyrfaen naill ai 'losgi' yn ddim wrth deithio drwy'r atmosffer, neu ar adegau eraill fe all daro'r Ddaear a gelwir ef yn 'feteoryn' (ll. meteorynnau) (gweler y llun ar y dde).[4] 'Meteoryn', felly, yw'r rhan honno o'r awyrfaen sydd wedi llwyddo i deithio drwy atmosffer y Ddaear ac sydd ar wyneb y Ddaear, heb ei ddifa.

Wrth daro'r ddaear, mae'r meteorynnau mwy sylweddol eu maint yn gadael eu hôl ar ffurf craterau ardrawiad.

Awyrfeini yng Nghymru golygu

Dyma ran o adroddiad “sgwp” Dyfed Evans yn Y Cymro ar achlysur trawiad gwesty’r Prince Llewelyn, Beddgelert, gan faen mellt yn 1948:

...Yn ffodus, disgynnodd ar yr unig ystafell wag i fyny’r grisiau [yng Ngwesty’r Prince Llywelyn]. Cysgai’r gwesteion heb wybod dim am y garreg pum pwys, chwe modfedd o rown, a faluriodd nenfwd y ‘lounge’ ar yr un llawr. Yr oedd Mr a Mrs Alwyn Maines, ymwelwyr o Sir Gaerhirfryn, o fewn pedair llath i’r lle disgynnodd - a chysgasant drwy’r holl helynt. Clywyd ergydion gan amryw o drigolion y cylch o Borthmadog i Feddgelert. Wedi tynnu’r llenni i’r naill du ac agor y ffenestr led y pen yn ôl ei arfer, gorweddai Mr. Ephraim Williams, Danw Deg, Llanfrothen yn effro yn ei wely yn y plygain. Yr oedd yn noson loergan ddigwmwl a tharanau y pethau olaf a feddyliai amdanynt. Am dri munud ar ddeg i dri clywodd ergydion yn yr awyr ond o godi i’r ffenestr ni welai neb. Ni allasai ddirnad beth oedd y swn, ond rhyfeddai na fuasai holl drigolion y pentref wedi codi. Yn y gwesty ym Meddgelert deffrowyd Mr a Mrs W. Tillotson, y perchnogion, gan ergydion fel bomiau’n ffrwydro. Cyfarthodd Rex eu ci defaid, ond ni ddeallwyd am y difrod nes daeth eu morwyn, Mrs Kate Williams, i lawr yn y bore. Ar y dechrau, tybiai Mr. Tillotson mai darn o’r mynydd sy’n codi’n syth tu cefn i’r gwesty, oedd y garreg, ond yr oedd yn amlwg iddi fod mewn tân. I’r llygad anghyfarwydd ymddengys y garreg fel craig ithfaen wyrddlas a geir yn gyffredin yn rhai chwareli Gogledd Cymru ond adwaenai Dr. E.V. Rieu (cymrawd o’r Gydeithas Ddaearegol Frenhinol a arhosai yn y gwesty), hi fel craig “peridotite” - rhan o seren wib”

Wrth ymweld â’r arddangosfa fechan a drefniwyd gan Brifysgol Caerdydd i ddathlu hanes taranfollt Beddgelert yn Neuadd Gymunedol y Pentref ar y 19eg Medi 2013 llwyddodd gohebwyr mentrus cafwyd hanes gan un o drigolion y pentref sydd yn cofio’r digwyddiad yn dda. Os am glywed y cyfweliad gyda Mrs. Eira Taylor ewch i wefan Llên Natur [1] a chliciwch ar eicon Beddgelert.[5]

Geirfa golygu

  • awyrfaen / gwibfaen (meteoroid) - yr enw ar y gwrthrych allfydol tra bo'n teithio drwy'r gofod
  • seren wib (meteor) - yr awyrfaen wedi iddi ddechrau teithio drwy atmosffer y Ddaear
  • meteoryn (meteorite) - y rhan honno o'r awyrfaen sy'n llwyddo i daro'r Ddaear heb ei difa.

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?awyrfaen
  2. Rubin, Alan E.; Grossman, Jeffrey N. (January 2010). "Meteorite and meteoroid: New comprehensive definitions". Meteoritics & Planetary Science 45 (1): 114–122. Bibcode 2010M&PS...45..114R. doi:10.1111/j.1945-5100.2009.01009.x. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1945-5100.2009.01009.x/abstract;jsessionid=49F5E412A475304A82B1E022F5B9270D.d04t03.)
  3. Atkinson, Nancy (2 Mehefin 2015). "What is the difference between asteroids and meteorites?". Universe Today.
  4. Porth Termau Cenedlaethol Cymru. GOFAL: nid yw Geiriadur yr Academi yn gwahaniaethu rhwng y tair fffurf wahanol.
  5. Bwletin Llên Natur rhifyn 61