Mae Ayakha Melithafa (ganwyd 2001/2002 yn Eerste River, Cape Town) yn ymgyrchydd hinsawdd De Affricanaidd.[1][2][3][4][5]

Ayakha Melithafa
Ganwyd2002 Edit this on Wikidata
Afon Eerste Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner De Affrica De Affrica
Galwedigaethymgyrchydd, ymgyrchydd hinsawdd, amgylcheddwr Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Daw Melithafa o ardal Afon Eerste, Western Cape, maestref yn Cape Town.[6] Mae'n fyfyriwr yng Nghanolfan Gwyddoniaeth a Thechnoleg Khayelitsha.[7]

Roedd hi'n un o 16 o bobl ifanc, gan gynnwys Greta Thunberg, Alexandria Villaseñor, Carl Smith a Catarina Lorenzo, a ffeiliodd gŵyn gyda Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn am beidio â mynd i'r afael yn ddigonol â'r argyfwng newid hinsawdd.[8][9][10][11]

Ymgyrchu golygu

Cyfrannodd Melithafa at fenter 'YouLead o Brosiect 90 erbyn 2030', sefydliad o Dde Affrica sydd wedi ymrwymo i leihau 90% o'r carbon yn yr amgylchedd erbyn 2030.[12] Cafodd ei recriwtio gan Ruby Sampson ym Mawrth 2019 i ymuno â thîm llefarydd ieuenctid Cynghrair Hinsawdd Affrica, lle cafodd gyfleoedd i wneud cyflwyniadau, mynychu cynadleddau a digwyddiadau gweithredu hinsawdd eraill. Mae hefyd yn gweithio fel swyddog recriwtio ar gyfer Cynghrair Hinsawdd Affrica.[13]

"Mae'n bwysig iawn bod y tlawd a'r bobl o liw yn mynd i'r protestiadau a'r gorymdeithiau hyn oherwydd nhw yw'r rhai sy'n dioddef o effaith newid hinsawdd fwyaf. Mae'n bwysig iddyn nhw gael llais, fel bod eu llais a'u gofynion yn cael eu clywed." --- Ayakha Melithafa [7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Meet SA's 17-year-old climate activist, Ayakha Melithafa" (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 de octubre de 2020. Check date values in: |access-date= (help)
  2. "#ChildrenVsClimateCrisis". childrenvsclimatecrisis.org. Cyrchwyd 2019-09-23.
  3. Sengupta, Somini (2019-09-20). "Meet 8 Youth Protest Leaders". ISSN 0362-4331.
  4. Feni, Masixole (2019-09-20). "South Africans come out in support of #ClimateStrike". t. GroundUp News.
  5. Singh, Maanvi (2019-09-21). "Global climate strike: Greta Thunberg and school students lead climate crisis protest – as it happened". ISSN 0261-3077.
  6. Ishmail, Sukaina (7 de enero de 2020). "From Eerste River to Davos for 17-year-old SA climate activist". Check date values in: |date= (help)
  7. 7.0 7.1 Knight, Tessa. "OUR BURNING PLANET: Cape Town teen climate activist Ayakha Melithafa takes drought to the UN". Daily Maverick (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-01-05.
  8. "16 Young People File UN Human Rights Complaint on Climate Change". Earthjustice (yn Saesneg). 2019-09-23. Cyrchwyd 2019-09-23.
  9. "'We Want to Show Them We Are Serious': 16 Youth Activists File Suit Against Major Nations for Failing to Act on Climate Crisis". Common Dreams (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-09-23.
  10. Goldhill, Olivia. "While global leaders messed around, Greta Thunberg and 15 kids got down to business". Quartz (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-09-23.
  11. Hausfeld (2019-09-23). "16 Young People File UN Human Rights Complaint on Climate Change". GlobeNewswire News Room. Cyrchwyd 2019-09-23.
  12. 2030. "About - Project 90 By 2030" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-09-23.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  13. "#ChildrenVsClimateCrisis". childrenvsclimatecrisis.org. Cyrchwyd 2019-09-23.