Bae Cinmel

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy, Cymru

Pentref fawr a chanolfan gwyliau yng nghymuned Bae Cinmel a Thywyn, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bae Cinmel[1] (Saesneg: Kinmel Bay).[2] Saif ar yr arfordir yr ochr arall i'r Foryd o'r Rhyl, rhwng y dref honno a Phensarn ac Abergele. Hanner milltir i'r de mae pentref Tywyn. Mae'r traeth yn llydan a'r tywod yn braf. I'r de o'r pentref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan. Mae'r ardal yn llawn o fyngalos bychan, parciau carafannau a chae rysys trotian Tir Prince.

Bae Cinmel
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBae Cinmel a Thywyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.31°N 3.52°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW45000029 Edit this on Wikidata
Cod OSSH988803 Edit this on Wikidata
Cod postLL18 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Yn 2001 roedd 63% o'r boblogaeth heb allu siarad gair o Gymraeg.[3]

Y peth mwyaf trawiadol am y lle heddiw mae'n debyg yw'r gwersyllfeydd carafanau gwyliau anferth rhwng y pentref a'r traeth. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf sefydlodd y Fyddin Brydeinig wersyll pebyll anferth yno (Parc Cinmel) ar gyfer hyfforddi milwyr.

Yn 1900 profodd y morglawdd yn annigonol a chafwyd llifogydd difrifol yn yr ardal.

Grwp o filwyr yng ngwersyll Bae Cinmel, 1931

Cludiant golygu

Ceir bwsiau rheolaidd haf a gaeaf i Abergele yn y gorllewin a'r Rhyl yn y dwyrain. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru (Caergybi - Caer) yn mynd heibio i'r pentref; yr orsaf agosaf yw'r honno yn Y Rhyl.

Hanes a Datblygiad golygu

Oesoedd cynnar golygu

Ers cynhanes hyd at oes y Rhufeiniaid, yr oedd ardal Bae Cinmel yn forfa eang. Yn fwy na thebyg, byddai afon Clwyd wedi ymdroelli'n igam ogam trwy'r morfa gan bosib ffurfio ryw fath o ddelta. Nid oes tystiolaeth bod unrhyw fath o anheddiad cynnar, ond darganfuwyd penglog Neolithig wedi ei gladdu o dan glai, gerllaw ym Mhensarn yn 1961. Y casgliad yw bod y penglog yn perthyn i ddyn 30 oed a oedd yn hela neu bysgota, a grwydrodd o un o'r bryngaerau cyfagos e.e. Dinorben neu Gastell Cawr.

Fel rhan o gynllun Edward I i adeiladu cyfres o gestyll i amddiffyn y ffordd arfordirol i Wynedd, trefnwyd i afon Clwyd gael ei gamlasu o Ruddlan hyd at y môr, gyda muriau ar y naill ochr i atal llifogydd. Yr oedd hyn yn gam cyntaf i sychu ac amgae Morfa Rhuddlan, ble saif Bae Cinmel heddiw. Ger aber Clwyd yn y Rhyl mae moryd wedi ffurfio, a Foryd oedd yr enw ar yr ardal rhwng Pensarn a Thowyn, ac afon Clwyd.

Meddiannu tir golygu

Yn 1794 pasiwyd Deddf Arglawdd Morfa Rhuddlan, a oedd y cam gyntaf sylweddol i sychu a datblygu tir Foryd. Yr oedd sychu'r morfa yn cynnwys adeiladu môrglawdd clai, gwyro afon Gele i ddod a dŵr ffres i'r morfa, amgae tiroedd ac adeiladu ffyrdd newydd. Gellir adnabod y ffyrdd heddiw, gan eu bod yn syth ac wedi eu hadeiladu'n dda, gyda ffosydd ar y naill ochr. Cafodd y tiroedd newydd eu rhoi i dirfeddianwyr lleol ar yr amod eu bod yn cynnal ffosydd a llwybrau cyhoeddus. Y tirfeddiannwr mwyaf oedd Teulu Hughes, Kinmel.

Daeth y rheilffyrdd i ogledd Cymru yn 1848 pan adeiladwyd Rheilffordd Caer a Chaergybi ar hyd yr arfordir, gyda Rheilffordd Dyffryn Clwyd i Ddinbych yn dilyn ryw ddeng mlynedd yn hwyrach. Yn ardal Foryd, gosodwyd y rheilffyrdd mymryn i'r de o'r arfordir. Mynnodd Teulu Kinmel bod y môrglawdd clai a adeiladwyd yn 1794 yn ddigonol i amddiffyn y tir i'r gogledd o'r rheilffordd rhag y môr. Digwyddodd llifogydd difrifol yn 1849, 1869, 1877 a 1921. Adeiladwyd amddiffynfeydd morol newydd gan Fwrdd Draenio Afon Clwyd rhwng 1923-25, ond cafodd y rhain eu difrodi hefyd. Yn 1967, adeiladodd Cyngor Dosbarth Trefol Abergele wal amddiffynnol arall yn erbyn y môr. Cafwyd llifogydd difrifol eto yn 1990. Dilynodd gwaith sylweddol i atgyfnerthu'r amddiffynfeydd morol.

Adroddir hanesion am hel ŷd ger fferm Tŷ Croes o gaeau sydd bellach o dan y môr, a chnydau barlys Tŷ Croes yn cael ei foddi gan donnau. Darganfuwyd pibellau draenio caeau ar y traeth, wedi eu gosod mewn trefn bwa; a ffon nodi London North Western Railway ryw 100 llathen allan i'r môr. Awgryma hyn bod y môr wedi cipio tir sylweddol yn y ganrif olaf, sydd fawr o syndod o ystyried y llifogydd mawrion sydd wedi digwydd.

Datblygiad y cyrchfan golygu

Yn dilyn deddf 1794, datblygodd gymuned amaethyddol hollol Gymreig a Chymraeg yn yr ardal. Parhaodd hyn hyd 1920-30 pan werthodd Teulu Kinmel tua 920 erw o dir i Kinmel Bay Land Co., gyda'r dewis i brynu 1,000 o erwau ychwanegol. Hwn oedd defnydd swyddogol cyntaf o Kinmel Bay fel enw ar y tir rhwng Towyn a'r Foryd. Yr oedd y cwmni yn gonsortiwm o ddynion busnes, a werthodd plotiau o dir a thai yma ac acw. Cafodd un tŷ ei gynnig fel gwobr loteri. Yr oedd pamffledi yn hysbysebu Bae Cinmel fel lle braf ger y môr gyda chwrs golff, cwrs rasio, clybiau tenis a bowlio a hyd yn oed awyrenfa. Nid oedd y rhain yn bodoli, ac yn fuan iawn aeth y cwmni i'r wal.

Arweiniodd y datblygiadau chwit-chwat at strydoedd gwael heb oleuadau, datblygiadau brith, a thai ar wasgar, ynghŷd ag isadeiledd dŵr gwael. Rhwng 1894 a 1935 yr oedd Bae Cinmel yn rhan o Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelwy. Yn 1935 daeth yn rhan o Gyngor Dosbarth Trefol Abergele. Nid oedd gan y naill awdurdod mo'r adnoddau na'r pres i fynd i'r afael â phroblemau isadeiledd Bae Cinmel. Yn dilyn adrefniant llywodraeth leol yn 1974, daeth Bae Cinmel yn ran o Gyngor Colwyn o fewn Sir Clwyd, ac yn araf iawn, daeth gwelliannau. Bellach mae hi'n Sir Conwy.

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. Gwyddoniadur Cymru, gol. John Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t.60
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.