Ffurf ar filiards sydd yn debyg yn tarddu o Loegr yw bagatél[1] lle trewir peli bychain i dyllau rhifedig ar fwrdd. Chwaraeir gyda ffyn a naw pêl ar fwrdd sy'n amrywio o 1.8 x 0.5 m i 3 x 0.9 m ac iddo ben hanner-cylchog gyda naw twll, wyth mewn cylch a'r nawfed yn ei ganol. Ceir un bêl ddu, pedair pêl goch, a phedair pêl wen. Dodir y bêl ddu tua 23 cm o blaen y twll cyntaf. Tynnir llinell y llain fach ar draws y bwrdd, a gosodir y peli coch a gwyn yno. Mae pob chwaraewr, yn ei dro, yn taro'r wyth pêl i ochr arall y bwrdd. Ni cheir sgôr nes i un o'r peli lliw taro'r bêl ddu. Nod y gêm yw i daro cymaint o beli sy'n bosib i mewn i'r tyllau, ac mae'r pêl ddu yn cyfri dwbl.[2]

Chwarae bagatél

Cyfeiriadau golygu

  1.  bagatél. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mehefin 2017.
  2. (Saesneg) bagatelle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mehefin 2017.