Arlunydd Pwyleg-Ffrengig oedd Balthasar Klossowski de Rola (29 Chwefror 190818 Chwefror 2001), a adnabyddid dan y llysenw Balthus.

Balthus
FfugenwKlossowski de Rola, Balthasa, Count, Klossowski, Balthasar Edit this on Wikidata
Ganwyd29 Chwefror 1908 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 2001 Edit this on Wikidata
Rossinière Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cynllunydd llwyfan, drafftsmon, darlunydd, ffotograffydd Edit this on Wikidata
Arddullcelf tirlun, bywyd llonydd, portread Edit this on Wikidata
MudiadSwrealaeth, New Objectivity Edit this on Wikidata
TadErich Klossowski Edit this on Wikidata
MamBaladine Klossowska Edit this on Wikidata
PlantStanislas Klossowski de Rola, Thadée Klossowski, Harumi Klossowska de Rola Edit this on Wikidata
Gwobr/auPraemium Imperiale Edit this on Wikidata

Torrodd ei dir ei hun, gan wrthod confensiwn a chelf yr oes. Mynnodd y dylai ei waith gael eu gweld - yn hytrach na darllen amdano, a gwrthododd unrhyw gais i greu bywgraffiad ohono. Yn 1968, mewn ateb i Oriel y Tate, dywedodd: "NO BIOGRAPHICAL DETAILS. BEGIN: BALTHUS IS A PAINTER OF WHOM NOTHING IS KNOWN. NOW LET US LOOK AT THE PICTURES. REGARDS. B."[1]

Magwraeth golygu

Ganwyd Balthus yn Paris, a noddwyd ei waith cynnar gan y bardd Almaeneg Rainer Maria Rilke a gan Maurice Denis, Pierre Bonnard a Pierre Matisse. Hanesydd celf oedd ei dad Erich Klossowski, a sgwennodd yn helaeth am Honoré Daumier, ac roedd ei fam, Elisabeth Dorothea Spiro (a adnabyddid fel Baladine Klossowska), yn rhan o ddiwylliant celf elitaidd Paris.

La Leçon de guitare (1934); olew ar gynfas.

Athronydd oedd ei frawd Pierre Klossowski, a'r prif ddylanwad arno oedd Marquis de Sade. Roedd llawer o enwogion yn ymweld â'u cartef gan gynnwys André Gide a Jean Cocteau, a ysbrydolwyd gan y cartref i sgwennu'r nofel Les Enfants Terribles (1929).

Cyfeiriadau golygu

  1. Klossowski de Rola, 18