Banc tywod anferthol yng nghanol Môr y Gogledd yw Banc Dogger (Iseldireg: Doggersbank, Almaeneg: Doggerbank, Daneg: Dogger banke). Saif oddeutu 100 km (62 mill) i'r dwyrain o arfordir dwyreiniol Lloegr. Mae gan y tywyn ei hun arwynebedd o 17,600 km2 (6,800 millt2) - gyda'i hyd yn 260 km (160 mi) a'i led yn 97 km (60 mill) - ac mae'n gorwedd 17–36 m (55-120 tr) dan wyneb y dŵr. Mae gwely'r môr o'i gwmpas, ar gyfartaeldd, 20 m (66 tr) yn is.[1]

Banc Dogger
Mathocean bank, ucheldir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôldogger, glannau Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig, Yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd17,600 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.25°N 3.5°E Edit this on Wikidata
Hyd260 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Gwyr pysgotwyr ers canrifoedd ei fod yn fan gwych i bysgota a daw ei enw o'r Hen Iseldireg am gychod dal penfras.

Map dychmygol o gyfnod cynnar yr Holosen tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl; Ynys Prydain, y gwledydd Sgandinafaidd a Môr y Gogledd.

Mae sawl brwydr môr wedi'i ymladd ar y banc gan gynnwys Brwydr Banc Dogger yn 1696, 1781, 1915 ac yn 1966 pan suddwyd un o longau tanfor yr Almaen.

Daeareg golygu

Mae'r tir hwn o dan y môr yn debyg i farian, wedi'i ffurfio yn ystod y Pleistosen.[1] Ar adegau o'r oes yr iâ diwethaf roedd yn rhan o'r tir mawr, neu ar adegau yn ynys. Pan cyfeirir ato ar yr adeg yma (pan oedd yn un ag Ynysoedd Prydain) gelwir ef yn Doggerland (neu Dir Dogger).[2]

Tir Dogger golygu

Cysylltai doggerland Prydain ag Ewrop. Diflanodd dan y môr rhwng 6,500-6,200 CP wrth i lefel y môr godi, ac o bosib mewn swnami a achoswyd gan 'Lithren Storegga'. yn Oes Ganol y Cerrig roedd y tir yn gyfoethog iawn, gydag amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn byw arno.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Stride, A.H (January 1959). "On the origin of the Dogger Bank, in the North Sea". Geological magazine 96 (1): 33–34. doi:10.1017/s0016756800059197. http://geolmag.geoscienceworld.org/cgi/content/abstract/96/1/33. Adalwyd 12 Ionawr 2010.
  2. Laura Spinney (2013-04-25). "Searching for Doggerland - National Geographic Magazine". Ngm.nationalgeographic.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-25. Cyrchwyd 2014-05-01.
  3. "Patterson, W, "Coastal Catastrophe" (paleoclimate research document), University of Saskatchewan" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-04-09. Cyrchwyd 2015-10-27.