Banc Lloegr

banc canolog y Deyrnas Gyfunol

Banc Lloegr yw banc canolog y Deyrnas Unedig. Cafodd ei wladoli yn 1946.

Banc Lloegr
Mathbanc canolog, busnes Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLloegr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 27 Gorffennaf 1694 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.51°N 0.09°W Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethy Deyrnas Unedig, Cyfreithiwr y Trysorlys Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganCharles Montagu, 1st Earl of Halifax Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Banc Lloegr fel banc preifat yn 1694 gan grŵp o farsiandïwyr Seisnig yn Llundain i fenthyg arian i'r brenin Wiliam III. Gyda sefydlu'r Deyrnas Unedig yn 1801, fel Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, daeth y banc i chwarae rôl fwyfwy allweddol yn economi'r deyrnas ac fel arf ariannol y llywodraeth.

Mae'n cyhoeddi nodau banc y DU (er bod banciau yn yr Alban yn cyhoeddi eu nodau banc eu hunain). Mae'n gweithredu polisi ariannol llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y farchnad agored ac yn gweithredu fel benthycydd pan fo rhaid i'r tai disgownt. Yn ogystal mae'n ceisio rheoli credyd trwy amrywio'r cyfradd llog y mae'n codi ar gyfrifau arbennig y banciau manachol. Yn ychwanegol, mae'n rheoli dyled genedlaethol y DU a'u cronfeydd aur.

Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato