Baner De Swdan

baner

Mae baner De Swdan yn faner ar gyfer gwladwriaeth gymharol newydd a ffurfiwyd wedi degawdau o ryfel annibyniaeth gan ran fwyafrifol-Gristnogol Swdan yn erbyn Swdan fwyafrifol Arabaidd, mae felly yn adlewychu natur y frwydr honno.

Baner De Swdan
Baner De Swdan yn cael ei chwifio ar ddiwrnod annibyniaeth, 9 G0rff. 2011

Mabwysiadwyd y faner ar ôl arwyddo Cytundeb Naivasja, a gadarnhaodd ddiwedd yr ail ryfel cartref Swdan a sefydlu De Swdan [1] Defnyddiwyd y faner i ddechrau gan Fudiad Rhyddhau Pobl Sudan (SPLM). Mabwysiadwyd y faner yn 2005 ond ni ddaeth y wlad yn annibynnol nes 2011.[2][3]

Dyluniad golygu

 
Y faner yn Karima, Swdan

Mae'r faner yn cynnwys triongl las ar ochr mas y faner (tebyg i faner Ciwba). Fel gyda baner Ciwba neu baner weriniaethol Catalwnia, ceir yn y triongl seren. Mae'r seren yn cynnwys pum pig ac yn lew melyn. Yn ymestyn o'r triongl mae tair streipen o faint cyfartal, o'r top i'r gwaelod - du, coch, gwyrdd gydag ymylon gwyn i'r streipen goch ganol.

Mae'r faner yn debyg i faner Cenia gydag ychwanegiad y triongl glas a'r seren melyn ar ochr y mast ac anwybyddu'r motiff o'r darian a'r arfau ar faner Cenia.

Symboliaeth golygu

Mae'r lliwiau'n cynrychioli'r canlynol:

Du - poblogaeth ddu Swdan (sy'n wahanol i boblogaidd mwy Arabaidd gogledd Swdan)
Coch - gwaed sy'n llifo yn y frwydr am ryddid
Gwyrdd - y wlad
Seren - yn wahanol i sêr gweriniaethol baneri Ciwba, neu Puerto Rico neu faner 'Estelada' Catalwnia, mae seren baner De Swdan yn cynrychioli Seren Bethlehem gan gyfeirio at natur fwyaf-frifol Gristnogol poblogaedd De Swdan - ac un rheswm dros y rhyfel dros annibyniaeth yn erbyn y gogledd.[4]

Baneri Eraill golygu

Baneri Tebyg golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The Government of Southern Sudan Archifwyd 8 March 2012 yn y Peiriant Wayback.
  2. "South Sudan". www.crwflags.com. Cyrchwyd 2016-10-16.
  3. "South Sudan: Flags and Symbols and National Anthem". World Atlas. Cyrchwyd 22 November 2016.
  4. swdan - plaid gwleidyddol

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Swdan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.