Baner Gaiana

baner

Bu baner Gaiana (Guyana) yn faner swyddogol y wlad yma yn Ne America ers mis Mai 1966 pan ddaeth y wlad yn annibynnol oddi ar y Deyrnas Unedig. Y llysenw ar y faner yw The Golden Arrowhead.

1:2 Baner forol Gaiana, cymesuredd, 2:1
Baner Gaiana mewn parêd Caribî, Toronto

Dyluniwyd y faner gan Whitney Smith, fecsolegydd o America. Roedd ei gynllun yn wreiddiol heb y ffinio du a gwyn a ychwanegwyd yn hwyrach ar awgrymiad y College of Arms, corff herodraeth Lloegr. Gwnaethpwyd hyn er mwyn cydymffurfio â Rheol Tintur sy'n nodi bod "lliw ar liw" (yn achos saeth werdd ar gefndir goch yn achos y dyluniad wreiddiol, yn anodd ei weld a'i adnabod o bellter. Cymesuredd y faner yw 3:5.

Symboliaeth golygu

Mae symboliaeth i'r lliwiau:

Gwyrdd - amaethyddiaeth a choedwigoedd
Gwyn - afonydd a dŵr
Aur - Cyfoeth y mwynau
Du - Gwytnwch
Coch - Sêl a deimanegrwydd

Baneri eraill golygu

Ceir baneri ar gyfer wahanol wasanaethau sifil a lluoedd arfog Gaiana. Maent yn aml yn dilyn traddodiad banereg Brydeinig.

Cyn-faneri golygu

Fel rhan o Ymerodraeth Prydain, roedd y faner a ddefnyddiwyd i gynrychioli Gaiana yr un cynllun bras â threfediaethau eraill yr ymeroedraeth - llain las, gyda baner Jac yr Undeb yn y canton ac arfbais Gaiana mewn cylch ar ochr canol dde y faner. Defnyddiwyd fersiwn goch answyddogol ar y môr (gan ddynwared lliman goch, 'Red Ensign' Prydain).[1] Lansiwyd y faner gyntaf yma yn 1875 gan addasu yn 1906 ac 1955. Fel gydag holl baneri yn y traddodiad Brydeinig, y cymesuredd oedd 1:2. Lluniwyd hefyd faner answyddogol ar gyfer Gweriniaeth Gaiana rhwng 1997-1904.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "1955-1966 Vlae". Flags of the World. Cyrchwyd 4 Maart 2013. Check date values in: |accessdate= (help)

Dolenni allanol golygu