Baner Gweriniaeth Dominica

baner

Mae baner Gweriniaeth Dominica yn cynrychioli Gweriniaeth Dominica ac, ynghyd â'r arfbais a'r anthem genedlaethol, mae ganddo statws symbol genedlaethol. Gweriniaeth Dominica yw rhan ddwyreiniol ynys Hispanola, gyda gweriniaeth Haiti ar yr hanner orllewinnol. Ni ddylid drysu â Dominica, a baner Dominica sydd yn ynys arall arwahân yn y Caribi

Baner Gweriniaeth Dominica
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
CrëwrJuan Pablo Duarte Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, glas, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 Tachwedd 1862 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner wladwriaethol a milwrol y Weriniaeth. Dyna'r aner a chwifir gan swyddfeydd a swyddogion y wladwrieth. Cymesuredd, 5:8
Baner genedlaethol Gweriniaeth Dominica, dyma'r faner fyddai'n cyhoedd fel rheol yn ei chwifio. Cymesuredd, 5:8

Dyluniad y Faner golygu

Dyluniwyd y faner gan Juan Pablo Duarte. [1] Fel y disgrifir gan Erthygl 21 o'r Cyfansoddiad Dominicaidd, mae gan y faner groes gwyn hyd at yr ymylon gan rhannu'r faner yn bedwar petryal; mae'r rhai uchaf yn las (ochr y mast) ac yn goch (ochr chwifio) ac mae'r rhai gwaelod yn goch (ochr y mast) a glas (ochr chwifio).

Lleolir yr arfbais genedlaethol, sy'n cynnwys tarian gyda dyluniad y faner ac yn cael ei gefnogi gan gangen llawfryf (chwith) a dail palmwydden (i'r dde), yng nghanol y groes. Uwchlaw'r tarian, ceir rhuban las yn arddangos yr arwyddair cenedlaethol Dios, Patria, Libertad ("Duw, Mamwland, Rhyddid"). Islaw'r tarian, mae'r geiriau República Dominicana yn ymddangos ar ruban goch (mae'r rhuban coch hwn mewn fersiynau mwy diweddar yn pwyntio am i fyny). Yng nghanol y darian, wedi eu fframio gan tair gwaywffon (dau ohonynt yn dal baneri Dominicaidd) ar y naill ochr, ceir y Beibl gyda chroes fechan uwchben sy'n agor i arddangos Efengyl Ioan, pennod 8, llinell 32, a yn darllen, Y la verdad os hará libres ("A bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi")[1]

Mae baner Gweriniaeth Dominicaidd yn debyg i faner Perm Krai, pwnc ffederal Rwsia

Symboliaeth golygu

Ceir symboliaeth i'r lliwiau:

Glas - yn sefyll am ryddid
Gwyn - ar gyfer iachawdwriaeth
Coch - ar gyfer gwaed yr arwyr.

Mae'r 'ensign' sifil yn dilyn yr un dyluniad, ond heb yr bathodyn yn y canol.

Hanes y Faner golygu

Mae gwreiddiau baner Gweriniaeth Dominica yn estyn nôl i fudiad chwyldroadol gyfrinachol La Trinitaria. Yn 1838 o dan ei harweindydd a sefydlydd, Juan Pablo Duarte, rhyddhawyd Dominica o reolaeth Haiti, y cyn-drefedigaeth Ffrengig oedd wedi ennill anninbyniaeth rhai blynyddoed ynghynt. Er gwaethaf y rhyfel gyda Haiti, penderfynodd Duarte ddefnyddio'r lliwiau coch a glas baner Haiti (a daeth eu hunain o liwiau gweriniaethol baner Ffrainc fel sail baner y wladwriaeth newydd.

Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 6 Tachwedd 1844.[2].

Yr Ystondord Arlywyddol golygu

 
Baner Cadbennaeth y Lluoedd Arfog, (Rafael Trujillo)
Baner Cadbennaeth y Lluoedd Arfog, (Rafael Trujillo) 
 
Baner Forwrol yr Arlywydd
Baner Forwrol yr Arlywydd 

Baneri eraill golygu

 
  Baner y fyddin
  Baner y fyddin 
 
  Baner y Llynges
  Baner y Llynges 
 
Jac y Llynges
Jac y Llynges 
 
Baner yr Awyrlu
Baner yr Awyrlu 
 
Baner yr Heddlu
Baner yr Heddlu 
 
Baner Pwerau'r Farnwriaeth a'r Goruchaf Lys
Baner Pwerau'r Farnwriaeth a'r Goruchaf Lys 

Baneri hanesyddol golygu

 
    Baner o 1844 at 1849
    Baner o 1844 at 1849 
 
    Baner o 1849 at 1861
    Baner o 1849 at 1861 

Rheolau defnydd y faner golygu

Diwrnod y Faner yn ôl Cofnod Swyddogol rhif 5231 Mai 1938, datganwyd mai 24 Hydref oedd Diwrnod y Faner gan mai ar y diwrnod hwnnw y ganwyd y Cadfridog ("Generalissimo") Trujillo.

Gyda diwedd Cyfnod Trujillo, gorchmynydd Cyfraith rhif 6085 ar 22 Hydref 1962 mai 27 Chwefror byddai Diwrnod y Faner, sef diwrnod Annibyniaeth Gweriniaeth Dominica.

Ceir rheolaethau ar gyfer codi, arddangos a rhoi gadw'r faner:

     
   
 

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu