Baner drilliw fertigol (ar sail baner Ffrainc) o stribedi du (a ddaw o darian yr arfbais), aur (lliw'r llew ar yr arfbais) a choch (o grafangau a thafod y llew) yw baner Gwlad Belg. Mabwysiadwyd ar 23 Ionawr 1831, yn dilyn annibyniaeth y wlad o'r Iseldiroedd yn 1830.

Baner Gwlad Belg

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)