Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is gwyn yw baner Indonesia. Mae'n seiliedig ar faner Ymerodraeth Majapahit y 13g: coch a gwyn oedd lliwiau sanctaidd Indonesia yn y cyfnod hwnnw. Cafodd y lliwiau eu hadfer yn yr ugeinfed ganrif i gynrychioli cenedlaetholdeb Indonesaidd yn erbyn yr Iseldiroedd, a oedd wedi rheoli'r wlad ers 1800. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 17 Awst, 1945, pan ddatganodd Indonesia ei hannibyniaeth oddi wrth yr Iseldiroedd; enillwyd annibyniaeth lwyr yn 1949.

Baner Indonesia

Mae coch yn symbol o fywyd corfforol, tra bo gwyn yn symboleiddio bywyd ysbrydol yr enaid; gyda'i gilydd maent yn cynrychioli'r bod dynol. Yn ogystal mae coch a gwyn yn lliwiau tradoddiadol yn Ne Ddwyrain Asia.

Mae'r un fath â baner Monaco, ac eithrio'u cyfraneddau (2:3 yw baner Indonesia o gymharu â 4:5).

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.