Baner drilliw yw baner Irac. Mae'n cynnwys stribed coch sy'n cynrychioli dewrder, stribed gwyn am haelioni, a stribed du sy'n cofio buddugoliaethau Islam.

Baner Irac

Ar stribed gwyn y faner mae tair seren werdd (sef lliw traddodiadol Islam) sy'n cynrychioli Irac, Syria, a'r Aifft. Bu cynllun ar gyfer undeb gwleidyddol â'r ddwy wlad hyn ni ddaeth i fod. Mae'r testun Arabeg yn darllen Allahu Akbar ("Mawr yw Duw"). Cafodd hyn ei ychwanegu gan yr Arlywydd Saddam Hussein yn 1991, a chafodd ei newid i lawysgrif Cwffig yn ddiweddar.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.