Mae Baner Llydaw, y Gwyn a Du (yn Llydaweg: Gwenn-ha-du) yn cynnwys naw stribedyn llorweddol gwyn a du, a smotiau ermin yn y gornel chwith uchaf. Fe'i crewyd ym 1923 gan Morvan Marchal, gan ddefnyddio fel ysbrydoliaeth arfbais dinas Roazhon a baneri'r Unol Daleithiau a Gwlad Groeg. Mae'r stribedi llorweddol yn cynrychioli'r naw esgobaeth draddodiadol yn Llydaw, y stribedi du yn cynrychioli'r rhai Ffrangeg eu hiaith (Dol, Naoned, Roazhon, Sant-Maloù a Sant-Brieg a'r pedwar gwyn yn cynrychioli'r pedair esgobaeth Lydaweg eu hiaith (Leon, Treger, Kernev a Gwened). Cafodd ei derbyn yn eang fel symbol Llydaw yn ystod y 1960au.

Baner Llydaw

Er i'r faner gyfoes gael ei chreu gan Marchal yn 1923 bu trwy gydol yr 1920au ac 1930au i'w gweld yn ymddangos mewn addasiadau gwahanol - weithiau gyda'r ermyn heb eu gweld yn llawn, weithiau gyda'r ermyn nid yn y canton ond yn hytrach ar hyd holl ochr y mast. Ymddengys i'r consensws ffurfio'n derfynnol ar ei ffurf bresennol erbyn 1938.[1]

Mae Gwenn ha Du hefyd yn enw ar gasgliad o farddoniaeth Lydaweg a droswyd i'r Gymraeg.

Emoji Baner Llydaw golygu

 
Baner Llydaw mewn gorymdaith wleidyddol, 2017
 
Arfbais Roazhon

Yn 2020 cafwyd ymgyrch i ennill statws i'r Gwenn ha Du fel emoji i'w defnyddio ar y Cyfryngau cymdeithasol. Llwyddodd ymgyrch #emojibzh i ennill llawer o sylw a chefnogaeth yn Llydaw a thu hwnt gyda dros 400,000 yn arwyddo deiseb i'w gefnogi.[2][3] Arweiniwyd yr ymgyrch gan grŵp EmojiBZH[4] - sef cnewyllyn yr ymgyrch i ennill Parth Lefel Uchaf ar gyfer Llydaw - pikBZH.[5] Y bwriad, maess o law, yw y bydd modd defnyddio baner Llydaw - fel un Cymru a'r Alban - fel eicon wrth ddefnyddio rhwydweithiau fel Twitter a Facebook. Sefydlwyd ymgyrch tebyg ar gyfer ennill statws tebyg i faner Corsica hefyd.

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mikael Bodlore- Penlaez : kant vloaz ar Gwenn ha du e FIL 2023". TV Bro Kemperle. 24 Awst 2023.
  2. https://www.letelegramme.fr/bretagne/pas-de-hashtag-emojibzh-avant-2021-21-02-2020-12508776.php
  3. https://www.francebleu.fr/infos/insolite/pas-de-drapeau-breton-mais-les-bretons-pourront-choisir-des-emojis-beurre-et-huitres-1549508681
  4. https://www.emoji.bzh/
  5. https://cy.wikipedia.org/wiki/.cym