Baner Namibia

baner

Mabwysiadwyd baner Namibia yn swyddogol ar 21 Mawrth 1990 diwrnod ei hannibyniaeth o Dde Affrica.[1]

Baner Namibia, cymesuredd, 2:3

Dylunio golygu

 
Baner Namibia yn cyhwfan
 
  Baner mudiad annibyniaeth SWAPO (1960-)

Derbyniodd yr Is-bwyllgor Symbolau Cenedlaethol 870 o geisiadau ar gyfer baner genedlaethol i Namibia. Cafodd chwe chynllun eu rhoi ar y rhestr fer; cafodd hyn ei ostwng i dri, rhai tair Namibiaid - Theo Jankowski o Rehoboth, Don Stevenson o Windhoek a Ortrud Clay o Lüderitz. Cafodd y tri chynllun hyn eu cyfuno i ffurfio baner genedlaethol Namibia, a fabwysiadwyd yn unfrydol ar 2 Chwefror 1990 gan y Cynulliad Cyfansoddol. Cydnabuwyd y tri dylunydd yn gyhoeddus gan y barnwr Hans Berker, cadeirydd yr is-bwyllgor, yn y seremoni ddadorchuddio ar 9 Mawrth 1990.[2]

Fodd bynnag, gwnaed dau hawliad arall - honnodd De Affricaniad, Frederick Brownell, ei fod wedi cynllunio'r faner yn ei rôl fel South Herald State State.[3] Yr hawliwr arall oedd Briton Roy Allen a honnodd bod dyluniad y faner yn ganlyniad cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Hannes Smith o'r Windhoek Observer, a'i fod wedi ennill.[4]

Yr hyn nad sydd mewn amheuaeth yw fod lliwiau y faner wedi eu seilio ar liwiau'r mudiad SWAPO (South West Africa People's Organisation), un o'r mudiadau a ymladdodd dros annibyniaeth i'w wlad. Mabwysiadwyd y faner yma yn 1971 ac mae iddo streipiau llorweddol glas-coch-gwyrdd sef lliwiau mwayf pwysig cenedl yr Ovamno, un o bobloedd brodorol mwyaf niferus y wlad.[1]

Symbolaeth golygu

Eglurodd y cadeirydd symbolaeth lliwiau'r faner fel a ganlyn: [2]

Coch - yn cynrychioli adnodd pwysicaf Namibia, ei bobl. Mae'n cyfeirio at eu harwriaeth a'u penderfyniad i adeiladu dyfodol cyfle cyfartal i bawb
Gwyn - yn cyfeirio at heddwch ac undod
Gwyrdd - yn symbol o lystyfiant ac adnoddau amaethyddol
Glas - yn cynrychioli awyr glir Namibia a'r Cefnfor Iwerydd, adnoddau dŵr gwerthfawr y wlad a glaw
Haul - yr haul melyn-aur yn cynrychioli bywyd ac egni

Dyluniad golygu

 
Cymesuredd dyluniad Baner Namibia

Mae gan y faner fand lletraws goch sy'n ymledu'n groeslinol o'r gornel ochr chwith isaf. Mae'r triongl uchaf yn las gyda haul aur gyda 12 pelydr triongl. Mae triongl, sef, rhan dde isaf y faner, yn wyrdd.

Mae dyfais y streipen letraws o chwith i dde yn ymddangos mewn baner sawl tair gwlad arall yn Affrica seff, baner Tansania, baner Gweriniaeth y Congo a baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

Baneri eraill cyfredol Namibia golygu

Baneri Hanesyddol tiriogaeth Namibia golygu

Yn ogystal â baneri sy'n hanesyddol i diriogaeth Sud-West Afrika, South West Africa ceir hefyd baneri a grewyd ar gyfer y 'tiriogaethau brodorol' (Bantustan /'homelands') a grewyd yn ystod cyfnod Apartheid o ran lywodraeth 'warchodol' De Affrica.


Cyn-faneri 'Homelands' (Bantustans) South West Africa golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 https://www.fotw.info/flags/na.html
  2. Kangootui, Herman; Amagola, Elizabeth (14 June 2018). "The Namibian flag: Its origins and spirit that inspire the nation". New Era. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-30. Cyrchwyd 2019-03-16.
  3. (reported by) FG Brownell (December 1990), Coats of Arms and Flags in Namibia (A series of 8 articles.)
  4. Schütz, Helge (23 October 2015). "Allen from Plymouth ... The man who designed the Namibian flag". The Namibian.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Namibia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.