Baner o ddau driongl ar ben ei gilydd, fel cyfuniad o ddau benwn, yw baner Nepal. Mae'n rhudd gydag amlinelliad glas, â silwétau gwyn o'r lleuad a'r haul. Mae'r trionglau yn symboleiddio mynyddoedd yr Himalaya ac hefydd y ddau grefydd Hindŵaeth a Bwdhaeth. Rhudd yw lliw cenedlaethol Nepal, ac mae'r lleuad a'r haul yn symboleiddio teuluoedd y Brenin a'r Prif Weinidog.

Baner Nepal

Nepal yw'r unig wladwriaeth yn y byd sydd â baner nad yw'n betryal neu'n sgwâr ei siâp. Mabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 1962.

Ffynhonnell golygu

  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).