Mae baner Cyfundrefn y Gwledydd Allforio Petroliwm neu'n fwy cyffredin, baner OPEC yn faner â chymesuredd o 3:5.[1] Mae'r talfyriad OPEC yn sefyll am Organization of Petroleum Exporting Countries. Mae'r corff yn cartel ryngwladol sy'n ceisio lliwiau pris a maint cynhyrchu ac allforio olew.

Baner OPEC
Enghraifft o'r canlynolbaner Edit this on Wikidata
Baner OPEC
Baner OPEC

Dyluniad golygu

Mae'r faner yn faes las gyda'r talfyriad OPEC wedi ei ysgrifennu mewn ffont unigryw gan adleisio siâp crwm barel o olew.

Hanes golygu

Sefydlwyd OPEC yn 1960 yn Baghdad, prifddinas Irac. Mae ei, ers 1965, phencadlys yn Fienna, prifddinas Awstria - nad sy'n gynhyrchydd olew. Yr aelodau gwreiddiol oedd: Irac, Iran, Cowait, Arabia Sawdi, a Feneswela.

Aelodau cyfredol y Corff (yn 2019) yw: Aljeria, Angola, Cowait, Ecwador, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Gini'r Cyhydedd, Gabon, Iran, Irac, Gweriniaeth y Congo, Libia, Nigeria, Arabia Sawdi (arweinydd de fact), a Feneswela. Mae Indonesia a Catar yn gyn-aelodau.[2] Mae'r 14 gwladwriaeth (ym Medi 2018) yn gyfrifol am 44% o gynnyrch olew y byd ac 81.5% o gronfeydd "profiedig" o olew'r byd.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu