Baner Sambia

baner

Cafodd baner Sambia (hefyd Zambia) ei mabwysiadu'n swyddogol ar 24 Hydref 1964. Mae'r faner yn dangos maes gwyrdd gydag eryr ehedig ar gornel dde y faner uwchben trilliw fertigol i mewn coch, du ac oren ar ochr cyhwfan y faner. Dyma'r faner genedlaethol [1] a'r lluman genedlaethol.[2] Mae'r faner yn unigryw am gynnwys y dyluniad yma, er, o gofio sut mae baneri yn chwifio, mae perygl mai prin bydd y gwyliwr yn gweld motiff yr eryr a'r trilliw.

Baner Sambia, cymesuredd, 2:3

Dyluniad a chymesuredd y faner

Symbolaeth golygu

Mae'r lliw gwyrdd ar y faner yn cynrychioli pridd ffrwythlon y wlad, mae'r coch yn cynrychioli'r gwaed sy'n llifo yn y frwydr am ryddid, mae pobl ddu yn cynrychioli poblogaeth Zambia ac oren yn cynrychioli adnoddau copr y wlad, yn rhan bwysig economi Zambia. Mae'r eryr uwchben y tri llwybr fertigol yn symbol o obaith y bobl Zambia.[3]

Dyluniad golygu

Mae gan y faner ddyluniad anarferol gyda'r arwyddion gwahaniaethol ar ochr cyhwfan y faner (lle mae pob baner genedlaethol arall ar ochr y mast neu yn canton. Dyluniwyd y faner gan Zambian, Gabrielle Ellison.

 

 
Canllaw lliw
Gwyrdd Coch De Oren/Eryr
RGB 25-138-0 222-32-16 0-0-0 239-125-0
Heksadesimaal #198a00ff #de2010ff #000000ff #ef7d00ff
CMYK 82, 0, 100, 46 0, 86, 93, 13 0, 0, 0, 100 0, 48, 100, 6

Hanes golygu

Tan 1939, defnyddiwyd baner y Deyrnas Unedig fel baner Sambia. Fodd bynnag, yn 1939, defnyddiwyd y Lluman Glas Prydeinig gydag arfbais Gogledd Rhodesia (fel y gelwid Sambia ar pryd) ar yr ochr cyhwfan - fel sy'n gyffredin i bob baner drefedigaethol Brydeinig. Yn 1953, newidiwyd y faner gydag arfbais arall ar yr ochr dde oherwydd ymunodd Gogledd Rhodesia a De Rhodesia (Simbabwe gyfoes) â Gwlad Nyasa (Malawi gyfoes) i greu Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa. Gydag ennill annibyniaeth ym 1964, rhoddwyd enw newydd swyddogol i'r wlad, "Zambia" a baner newydd. Yn 1996 gwelwyd newid bychan i'r dyluniad, wrth i'r lliw gwyrdd oleuo a newidiwyd yr eryr i ymdebygu fwy i'r un ar arfbais y wlad.[4]

Baneri Eraill golygu

Dolenni golygu

  • Sambia gan Flags of the World.

Cyfeiriadau golygu

  1. "National Flag and Armorial Ensigns Act" (PDF). Ministry of Legal Affairs, Government of the Republic of Zambia. 4 June 1965. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-04. Cyrchwyd 13 July 2015.
  2. "Merchant Shipping (Temporary Provisions) Act" (PDF). Ministry of Legal Affairs, Government of the Republic of Zambia. 4 May 1969. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-02-16. Cyrchwyd 13 July 2015.
  3. Greig, Charlotte. The Dictionary of Flags. Grange Books. ISBN 1-84013-758-4
  4. https://www.crwflags.com/fotw/flags/zm.html