Baner Ynysoedd Erch

Baner Cymuned Ynysoedd Erch ddaeth yn fuddugol mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer baner swyddogol newydd fis Chwefror a Mawrth 2007.[1][2] Yn ystod yr ymgynghoriad hwn gofynnwyd i bobl Ynysoedd Erch ddewis eu hoff ddyluniad oddi ar restr fer o bump a oedd wedi'u cymeradwyo gan Lys yr Arglwydd Lyon.[3] Dyluniad Duncan Tullock o Birsay oedd yn fuddugol, a gafodd 53% o 200 o bleidleisiau'r cyhoedd.[4]

Baner Ynysoedd Erch
Llun o'r faner yn cyhwfan yn Stromness

Daw'r lliwiau coch a melyn o arfbeisiau Norwy a'r Alban a chynrychiola'r faner etifeddiaeth Albanaidd a Norwyaidd yr ynysoedd. Cymerwydd y lliw glas oddi ar faner yr Alban ac mae'n cynrychioli'r môr ac etifeddiaeth forwrol yr ynysoedd hefyd.

Mae'r faner newydd yn debyg i faneri Norwy (gwyn am felyn) ac Åland (y lliwiau o chwith). Tynnwyd sylw ei bod hi'n debyg i faner plaid ffasgaidd Vidkun Quisling yn Norwy, Nasjonal Samling[5], ym mis Mai 2007.[6]. Er hynny, nid oedd y groes las ar y faner honno, sy'n ei gwneud yn ddigon hawdd gwahaniaethu rhwng y ddwy. Dylid hefyd sôn bod baner goch a melen yn cael ei defnyddio gan bobl yn rhanbarth Skåne Swedeg ei hiaith flynyddoedd cyn i Nasjonal Samling ddefnyddio baner â chroes goch a melen. Ceir baner â chroes goch a melen gan Ffiniaid Swedeg hefyd.

Cronoleg golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Flag design approved by Lord Lyon Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback., The Orcadian, 25 June – 1 July 2007
  2. "Orkney Islands Council". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2007-09-28.
  3. "Orkney Islands Council" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2007-09-28.
  4. Postman designs new Orkney flag, BBC News Online, 10 April 2007
  5. Nasjonal Samling (norway), Flags of the World
  6. "Scots Heraldry". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2014-02-26.

Gweler hefyd golygu