Banksy

cyfarwyddwr ffilm a aned yn Yate yn 1974

Banksy yw ffugenw artist graffiti Seisnig dienw[1] o Yate, ger Bryste. Mae ei waith yn cael ei beintio yn gudd ar waliau strydoedd gan ddefnyddio stensiliau. Fel arfer yn ddychanol, ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth, diwylliant poblogaidd neu foeseg.

Banksy
FfugenwBanksy Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Gorffennaf 1974 Edit this on Wikidata
Bryste, Yate Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, arlunydd, gweithredydd gwleidyddol, ymgyrchydd celf, ysgrifennwr, cerflunydd, graffiti artist, activist shareholder, artist murluniau, artist stryd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOne Nation Under CCTV, Slave Labour, Love is in the Bin, Exit Through The Gift Shop Edit this on Wikidata
Arddullcelf gyhoeddus, social-artistic project, celf stryd, graffiti, cerfluniaeth Edit this on Wikidata
Mudiadcelf gyfoes Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 'FiLM iNDEPENDENT' Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://banksy.co.uk Edit this on Wikidata

Yn 2010 ryddhawyd y ffilm ddogfen Exit Through the Gift Shop sydd yn dilyn Thierry Guetta, ffan celfyddyd stryd yn ceisio dod o hyd i Banksy. Mae’r ffilm ddogfen yn cael ei lleisio gan Rhys Ifans.

Celf Stryd golygu

Mae Banksy yn defnyddio ei gelfyddyd stryd i hyrwyddo ei weledigaeth wleidyddol wrth-sefydliadol a gwrth cyfalafol. Mae amryw o themâu yn ail ymddangos yn ei waith: llygod mawr, milwyr, heddlu, etc. Mae ei waith wedi'i boblogeiddio trwy gael ei weld yn ninasoedd mawrion y byd, yn arbennig Llundain.

Mae cryn ddadl os yw ei waith yn 'fandaliaeth' neu'n 'gelfyddyd'. Yn y gorffennol fe glanhawyd llawer o’i beintiadau oddi ar waliau gan gynghorau lleol a oedd yn eu hystyried yn ‘ddifrod’. Ers iddo ddod yn enwog mae nifer o waliau gyda pheintiadau Banksy wedi cael eu cludo i ffwrdd i gadw'r gwaith celf neu i'w gwerthu am brisiau uchel.[2]

Bu'n rhan o sîn graffiti bywiog ardal Bryste ar ddiwedd y 1980au. Mae ei ddefnydd o stensiliau'n debyg i waith yr arlunydd 'Blek le Rat'. Ystyrir Blek, a weithiodd ym Mharis yn y 1980au. yn ddylanwad mawr ar y mudiad graffiti modern.

Wrth gydnabod dylanwad Blek, dywedodd Banky: pob tro dwi 'n peintio rhywbeth dwi'n ei ystyried yn eitha' gwreiddiol, dwi'n sylweddoli bod Blek le Rat wedi'i wneud yn well ugain mlynedd yn ôl.[3]

Mae dylanwad gwaith celf y grŵp Pync anarchaidd Crass hefyd i’w weld ar syniadau ac arddull Banksy.

Hefyd, welir dylanwad neu gymhariaeth gyda gwaith y grŵp Adbusters sydd yn dychanu a thanseilio hysbysebion.

Ffugenw ac enwogrwydd golygu

 
Mur Israelaidd y Lan Orllewinol ger Bethlehem – 2005

Fel arfer, dwedir iddo fod yn ddyn gwyn, gwallt golau, sydd yn gwisgo dillad arferol graffitiwr rhwng 28 a 35 oed. Mae Banksy yn cuddio ei enw go iawn rhag y cyhoedd, y wasg a'r heddlu. Mae Simon Hattenstone, o'r Guardian, un o'r ychydig i gyfweld â Banksy wyneb yn wyneb, yn ei ddisgrifio fel cymysgydd rhwng Jimmy Nail a Mike Skinner a dyn gwyn tua 28 oed mewn jîns a gyda dant arian, cadwyn arian a modrwy arian.

Yn ôl Tristan Manco 'ganwyd Banksy ger Bryste ym 1974, yn ‘fab i dechnegydd peiriannau ffotocopïo'.[4]

Dechreuodd ei waith yn strydoedd Bryste, rhwng 1992 a 1994. Erbyn 2000 ymddangosodd ei waith yn Llundain a bellach wedi cyrraedd enwogrwydd rhyngwladol.[5]

Mae Banksy hefyd wedi derbyn comisiynau gan fudiadau fel Greenpeace ac ar gyfer cwmnïau mawrion fel Puma a MTV. Mae hefyd wedi gwerthu darluniau am £25,000 ar y farchnad celf neu trwy ei asiant Steve Lazarides. Gwerthwyd un grŵp o weithiau am dros £50,000 gan ddod a chyhuddiadau o 'werthu allan' gan arlunwyr arall a gweithredwyr gwleidyddol.

Yn 2014 fe gododd glwb ieuenctid £403,000 trwy werthu un o beintiadau Banksy. Roedd y Broad Plain Boys' Club ym Mryste wedi bod yn wynebu problemau ariannol pan ymddangosodd murlun Banksy ar wal eu hadeilad - yn anrheg hollol annisgwyl. Fe dynnwyd y murlun (o bâr o gariadon yn edrych ar eu ffonau symudol) oddi ar y wal ac fe werthwyd i gasglwr preifat.[6]

Mae Banksy wedi datgan:

When you go to an art gallery you are simply a tourist looking at the trophy cabinet of a few millionaires.[7]

Serch hynny mae Banksy hefyd wedi arddangos ei waith yn rhai o orielau enwocaf y byd yn cynnwys Tate Modern Llundain ac MOMA (Museum of Modern Art), Efrog Newydd.

Mae Banksy hefyd wedi cytuno i gymryd rhan yn y Simpsons. Cyfranodd Banksy waith animeiddio i'r pennod MoneyBART, gyda thref Springfield yn llenwi gyda graffiti a delweddau Banksy tu ôl i'r soffa'r teulu yn ar ddechrau'r rhaglen.

 
Siopio nes syrthio, Barlow Lane, Llundain

Beirniadaeth golygu

  • Yn 2004 fe rhanodd y grwp anarchaidd Space Hijackers daflenni o flaen arddangosfa Banksy yn cwyno am ei ragrith am ddefnyddio delweddau gwrth-gyfalafol a phrotest tra hefyd yn gweithio dros gwmni enfawr ac orielau mawrion.[8]
  • Mae Peter Gibson, o'r ymgyrch Keep Britain Tidy, yn ystyried gwaith Banksy ac artistiaid graffiti eraill yn fandaliaeth. Mae Diane Shakespeare, swyddog gyda'r un ymgyrch yn poeni bod “Banksy yn clodfori celfyddyd y stryd, sydd ond yn fandaliaeth.[9][10]
  • Mae'r beirniad cefl Luis Jaume, yn ystyried Banksy Jeff Koons a Damien Hirst fel y dynion busnes gorau am farchnata celf.[11]

Gwaith adnabyddus golygu

 
Murlun yn Lerpwl

Mae Banksy wedi hawlio cyfrifoldeb am nifer o weithiau adnabyddus yn cynnwys:

  • Sŵ Llundain: Dringodd i warchodfa'r pengwiniaid a pheintiodd "We're bored of fish" mewn llythrennau 2 medr o uchder.[12]
  • Sŵ Bryste: Gadewodd neges "I want out. This place is too cold. Keeper smells. Boring, boring, boring." yn warchodfa'r eleffantod.[13]
  • Mawrth 2005: osododd yn slei ei weithiau celf ar waliau tu mewn i sawl oriel ac amgueddfa enwog yn Efrog Newydd.[14]
  • British Museum, Llundain, Mai 2005: Gosododd yn slei ei fersiwn o darlun ogof yn dangos dyn yn hela anifeiliad gwyllt tra'n gwthio troli siopa[15]
  • Awst 2005: Peintiodd Banksy furluniau ar Mur Israelaidd y Lan Orllewinol ym Methleham, Ramala ac Abu Dis. Roedd y peintiadau yn dangos themâu fel ysgol yn estyn dros y wal a phlant yn gwneud twll trwy'r wal.[16][17]
  • Hydref 2005: Cynlluniodd Banksy gyfres o 6 graffig ar gyfer y sianel deledu Nickelodeon.[18]
  • Ebrill 2006: Creodd Banksy gerflun o flwch teleffon ar ei ochr wedi'i falu gyda chaib, yn ymddangos i i fod mewn pwll o waed. Gadawyd ar ochr stryd yn Soho, Llundain ond fe symudwyd gan y cyngor lleol.[19]
  • Awst/Medi 2006: Gosododd Banksy tua 500 copi o CD cyntaf Paris Hilton, yn 48 o siopau recordiau trwy wledydd Prydain gyda chynllun clawr ei hun a fersiynau wedi'u hail gymysgu o'r caneuon. Rhoddwyd teitlau fel "Why Am I Famous?", "What Have I Done?" a "What Am I For?" i'r caneuon. Gwerthwyd sawl copi o'r CD cyn i'r siopau sylweddoli ac yn eu cymryd i ffwrdd. Roedd rhai o'r cloriau'n dangos Paris Hilton yn dod allan o gar moethus i gynnwys grŵp o bobl ddigartref.[20][21][22]
  • Medi 2006: Fe wisgodd Banksy dol rwber aer yn steil dillad carcharor Bae Guantanamo, siwt oren gyd mwgwd du a chadwyn ac fe'i osododd yn Disneyland, Califfornia.[23][24]
  • Gorffennaf 2012: Ychydig o flaen gemau Olympaidd Llundain, 2012, fe greodd sawl darn yn seiliedig ar y digwyddiad. Roedd un yn dangos athletwr yn taflu bom yn lle jafalin - yn dychanu'r newyddion bod taflegrau’r fyddin wedi'u lleoli ar ben adeiladu uchel yn ardal y gemau yn erbyn ymosodiad terfysgol posib.[25][26]
  • Ebrill 2014: Yn dilyn sgandal ysbio, fe greodd ddarn yn Cheltenham, ger pencadlys ysbio Llywodraeth Prydain GCHQ. Yn dangos tri o ddynion amheus yn gwisgo sbectol haul yn defnyddio teclynnau i wrando ar flwch teleffon.[27]
 
Season's Greetings gan Banksy ym Mhort Talbot
  • Rhagfyr 2018: Season's Greetings – Ar 18 Rhagfyr 2018, ymddangosodd darn o waith ar wal garej yn ardal Tai-bach ger Port Talbot. Roedd y llun, mewn arddull nodweddiadol Banksy, yn dangos plentyn yn edrych i'r awyr ar blu eira yn disgyn. Ond rownd y gornel, roedd hi'n amlwg mai tân yn llosgi oedd yn creu y llwch gwyn. Roedd cryn ddyfalu os mai Banksy oedd yr artist a fe gadarnhawyd hynny y diwrnod canlynol gyda fideo wedi bostio ar ei gyfrif Instagram.[28] Mae'n bosib fod y darn celf wedi ei ysbrydoli gan y llwch o weithfeydd dur Port Talbot a ddisgynnodd yn yr ardal yng Ngorffennaf 2018. Roedd hyn yn dilyn cyfnod sych hir lle roedd y llwch yn aros yn yr awyr.[29]

Llyfrau a ffilmiau golygu

Mae Banksy wedi hunan-gyhoeddi sawl llyfr gyda ffotograffau o'i waith ar waliau o amglych y byd ac ar gynfasau.

 
Clawr llyfr Bansky

Cyhoeddwyd Wall and Piece gan Random House yn 2005, yn ddetholiad o waith ei lyfrau blaenorol gyda darnau newydd. Bu'n llwyddiant masnachol gyda gwerthiant uchel.[30]

Yn 2010 ryddhawyd y ffilm ddogfen Exit Through the Gift Shop sydd yn dilyn Thierry Guetta, ffan celfyddyd stryd yn ceisio dod o hyd i Banksy. Mae’r ffilm ddogfen yn cael ei lleisio gan Rhys Ifans.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
 

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg)"On the trail of artist Banksy", BBC, 8 Chwefror, 2007.
  2. http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-bristol-27062456
  3. Nodiadau clawr DVD "Original Stencil Pioneer" - King Adz
  4. Manco, Tristan (11 March 2002). Stencil Graffiti. London: Thames & Hudson. t. 74. ISBN 978-0-500-28342-4.
  5. http://www.theguardian.com/artanddesign/gallery/2014/aug/26/banksy-in-new-york-in-pictures
  6. http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-bristol-28950398
  7. Wall and Piece, by Banksy, 2006, Century, ISBN 1-84413-787-2, pg 150
  8. http://www.spacehijackers.org/html/projects/banksy/burner.html
  9. http://crueldazeofsummer.wordpress.com/2013/09/08/the-elusive-british-street-artist-banksy-pioneer-or-hack/
  10. http://www.artcrimearchive.org/article?id=79002[dolen marw]
  11. http://pintaparedes1.blogspot.co.uk/p/banksy.html
  12. For the Gauguin of graffiti it was all about tagging. Now he's into six-figure price tags[dolen marw]. The Telegraph
  13. Kennedy, Randy (24 March 2005). "Need Talent to Exhibit in Museums? Not This Prankster". The New York Times. Cyrchwyd 12 June 2008.
  14. "A Wooster Exclusive: Banksy Hits New York's Most Famous Museums (All of them)". 23 March 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-09. Cyrchwyd 19 September 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  15. Howe, Jeff (August 2005). "Art Attack". Wired (13.08). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-02. http://www.wired.com/wired/archive/13.08/bansky.html. Adalwyd 3 January 2014.
  16. Parry, Nigel (10 October 2006). "British Graffiti Artist, Banksy, Hacks the Wall". Nigel Parry, from MIT Thresholds journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-11. Cyrchwyd 12 February 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  17. Parry, Nigel (2 September 2005). "Well-known UK graffiti artist Banksy hacks the Wall". Electronic Intifada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-16. Cyrchwyd 12 February 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  18. loveforlogos (29 July 2012). "Nickelodeon Next ID (2005)". YouTube. Cyrchwyd 25 November 2012.
  19. "Artist's cold call cuts off phone". BBC News. 7 April 2006. Cyrchwyd 19 September 2006.
  20. "Paris Hilton targeted in CD prank". BBC News. 4 September 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-10. Cyrchwyd 19 September 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  21. Truscott, Claire; Hodgson, Martin (3 September 2006). "Banksy targets Paris Hilton". London: The Independent on Sunday. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-05. Cyrchwyd 19 September 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  22. "Paris Prank Confirmed". 7 September 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-11-21. Cyrchwyd 19 September 2006.
  23. "Breaking: The story Disneyland doesn't want you to know". 8 September 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-15. Cyrchwyd 19 September 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  24. "Artist Banksy targets Disneyland". BBC News. 11 September 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-05. Cyrchwyd 19 September 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  25. Eurosport (25 July 2012). "London could destroy Banksy's valuable Olympic graffiti | London Spy – Yahoo! Eurosport UK". Uk.eurosport.yahoo.com. Cyrchwyd 25 November 2012.
  26. Posted: 24 July 2012 13:02 Updated: 26 July 2012 23:37. "London 2012: Street Artist Banksy's Olympic Graffiti Unveiled (PICTURES)". Huffingtonpost.co.uk. Cyrchwyd 25 November 2012.
  27. Posted: 10 June 2014 13:02. ref=uk "Banksy confirms he is creator of Spy Booth wall art near GCHQ" Check |url= value (help). guardian.com. Cyrchwyd 10 June 2014. Missing pipe in: |url= (help)
  28. Banksy yn hawlio cyfrifoldeb am furlun Port Talbot , Golwg360, 19 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd ar 21 Rhagfyr 2018.
  29. Black dust from Port Talbot steelworks is covering people's houses, cars and pets , WalesOnline, 20 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 21 Rhagfyr 2018.
  30. Tom Tivnan, Art of the matter, The Book Seller, 8 June 2009. Retrieved 2 December 2011.