Bardd Cenedlaethol Cymru

Bardd Cenedlaethol Cymru yw'r teitl a roddir i'r bardd a ddewisir i fod yn "llysgennad diwylliannol i Gymru" gan Llenyddiaeth Cymru (Yr Academi Gymreig gynt). Gwneir y dewis gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pwyllgor Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Gymdeithas Gerdd Dafod, Cyngor Celfyddydau, Canolfan Tŷ Newydd ac eraill. Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n ariannu'r penodiad. Mae'n benodiad am flwyddyn fel rheol ond gyda'r opsiwn o estyniad am flwyddyn ychwanegol. Disgwylir i'r bardd "wasanaethu Cymru gyfan a gwneud hynny drwy gyfrwng y ddwy iaith." Mae'r bardd cenedlaethol yn rhydd i ddilyn ei drywydd ei hun ac nid oes disgwyl iddo/iddi weithredu fel "bardd llys" diweddar, fel yn achos y Bardd Llawryfog (Poet Laureate) yn Lloegr.

Bardd Cenedlaethol Cymru
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
MathBardd llawryfog Edit this on Wikidata
CrëwrLlenyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu30 Mai 2005 Edit this on Wikidata
Deiliad presennolGwyneth Lewis, Gwyn Thomas, Gillian Clarke, Ifor ap Glyn, Hanan Issa Edit this on Wikidata
Deiliaid a'u cyfnodau 
  • Gwyneth Lewis (30 Mai 2005 – 10 Gorffennaf 2006),
  •  
  • Gwyn Thomas (10 Gorffennaf 2006 – 2008),
  •  
  • Gillian Clarke (2008 – 1 Mawrth 2016),
  •  
  • Ifor ap Glyn (1 Mawrth 2016 – 6 Gorffennaf 2022),
  •  
  • Hanan Issa (6 Gorffennaf 2022)
  • Enw brodorolBardd Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
    GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
    Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol gyntaf Cymru

    Beirdd Cenedlaethol Cymru golygu

    Gweler hefyd golygu

    Dolen allanol golygu

    Cyfeiriadau golygu

    1. Ifor ap Glyn yw'r Bardd Cenedlaethol newydd , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2016.
    2. Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol newydd Cymru , Golwg360, 6 Gorffennaf 2022.