Barry Morgan

offeiriad Anglicanaidd (1947- )

Archesgob Cymru rhwng 2002 a 2017[1] yw'r Gwir Barchedig Athro Barry Cennydd Morgan MA, DPhil, DCL, DD, FBA (ganed 31 Ionawr 1947). Cyn hynny bu'n Esgob Llandaf.

Barry Morgan
Ganwyd31 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Diwinyddiaeth, Uwch Ddoethor Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata
SwyddArchesgob Cymru, Esgob Llandaf, Esgob Bangor Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Yn enedigol o Waun-Cae-Gurwen, Castell-nedd, de Cymru fe ddarllenodd hanes yn Llundain a diwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt; fe'i hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Westcott House, Caergrawnt ac astudiodd am ddoethuriaeth pan oedd yn ddarlithydd prifysgol. Mae'n awdur toreithiog ac mae wedi lleisio'i farn yn gryf dros fwy o rym i'r Cynulliad yn ogystal ag yn erbyn datblygu arfau niwclear.

Bu’n gweithio mewn ystod o gyd-destunau gweinidogaethol - mewn gweinidogaeth plwyf, fel darlithydd prifysgol a choleg diwinyddol a chaplan prifysgol, ac fel archddiacon, cyfarwyddwr ordinandiaid a swyddog addysg weinidogaethol barhaus. Mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd, ac yn gwasanaethu ar Bwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymundeb Anglicanaidd. Roedd yn aelod o Gomisiwn Lambeth a gynhyrchodd Adroddiad Windsor 2004.

Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau; y diweddaraf o’r rheini oedd astudiaeth o waith y bardd R. S. Thomas, Strangely Orthodox. Mae hefyd ar hyn o bryd yn Ddirprwy-Ganghellor Prifysgol Cymru, cymrawd Prifysgolion Caerdydd, UWIC, Bangor a Llanbedr Pont Steffan a Llywydd y Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, ac mae newydd gadeirio ymchwiliad ar ran Shelter Cymru ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’n mwynhau chwarae golff a darllen nofelau yn ei oriau hamdden.

Cafodd ei ordeinio yn 1973 a phenodwyd ef yn rheithor Cricieth ac Archddiacon Meirionnydd yn 1986, yna etholwyd ef yn Esgob Bangor yn 1993, cyn symud i fod yn Esgob Llandaf yn 1999. Etholwyd ef yn Archesgob Cymru fel olynydd i Rowan Williams yn 2003.

Ers 2004 mae'n aelod o Weithgor y grŵp dylanwadu traws-bleidiol Cymru Yfory, sy'n gweithio i ennill cefnogaeth i argymhellion Comisiwn Richard ar ddataganoli a chael grym deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bu'n gyson o blaid ordeinio merched i'r eglwys, a phenododd ferch yn archddeacon yn Llandaf yn y 2010au.

Yn Ebrill 2013 cafodd ei wneud yn un o ddau Noddwr y Wicipedia Cymraeg.

Cyhoeddwyd yn Awst 2016 y byddai'n ymddeol fel Archesgob Cymru ar 31 Ionawr 2017 wedi 14 mlynedd o wasanaeth.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cymrodorion; Archifwyd 2013-02-24 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 26 Mawrth 2013
  2.  Archesgob Cymru’n ymddeol. Golwg360 (23 Awst 2016).
Rhagflaenydd:
Rowan Williams
Archesgob Cymru
20032017
Olynydd:
John Davies