Barwniaeth Aberconwy

teitl arglwyddiaeth yn y Deyrnas Unedig

Mae Barwn Aberconwy, (en:Baron Aberconway) o Fodnant yn Sir Ddinbych, yn deitl ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig.[1]

Arfbais Arglwyddi Aberconwy

Hanes golygu

Cafodd y teitl ei greu ar 21 Mehefin 1911 ar gyfer y diwydiannwr a'r gwleidydd Rhyddfrydol Syr Charles McLaren. Roedd eisoes wedi cael ei urddo'n farwnig, o Fodnant, Gwylgre a Hilders, ar 8 Awst 1902. Roedd ei fab hynaf, yr ail Farwn, yn ddyn busnes a hefyd yn Aelod Seneddol. Olynwyd ef gan ei fab, y trydydd Barwn. Bu farw'r trydydd barwn ar 4 Chwefror 2003 ac aeth y teitl i'w fab hynaf, Henry McLaren, y pedwerydd barwn a deiliad presennol y teitl.

Arfbais golygu

Cefndir aur (or), dau gwplws (chevronel) coch (gules) gydag ochrau crwn (invect), rhwng dwy ffon bugail uwch eu pennau a chastell du gyda thri thwr yn chwifio baneri du (sable) oddi tanynt (base) Arwyddair: Bi'se Mac Na Cromaige (Gaeleg; Rwyf yn fab i'r Eglwys)

Deiliaid golygu

Yr Anrhydeddus Charles Stephen McLaren (g 1984) etifedd tybiedig.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cracroft's Peerage The Complete Guide to the British Peerage & Baronetage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-01. Cyrchwyd 2016-07-07.