Bathodynnau gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid

Roedd bathodynnau gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid, trionglau'n bennaf, yn rhan o system adnabyddiaeth yng ngwersylloedd crynhoi'r Natsiaid. Cawsant eu defnyddio er mwyn gwybod paham fod carcharor wedi cael ei roi yno.[1] Gwnaed y trionglau hyn o ffabrig a chawsant eu gwnïo ar siacedi a chrysau'r carcharorion. Roedd gan y bathodynnau cywilydd hyn ystyr penodol, yn dibynnu ar eu siâp a'u lliw.

System codio bathodynnau golygu

 
Iddewon o'r Iseldiroedd yn gwisgo seren felen a'r lythyren "N" am Niederländer yng ngwersyll crynhoi Buchenwald.
 
Plentyn 14 oed Czesława Kwoka gyda bathodyn (triongl sengl tywyll), Auschwitz 1942/43.

Amrywiai'r system fathodynnau o wersyll i wersyll, a thua diwedd yr Ail Ryfel Byd, lleihaodd y defnydd ohonynt. Mae'r disgrifiad canlynol yn seiliedig ar y system godio bathodynnau a ddefnyddiwyd cyn ac ar ddechrau'r rhyfel yng ngwersyll crynhoi Dachau. Yn y gwersyll hwnnw y gwelwyd y system godio fwyaf manwl.

Trionglau sengl golygu

Tabl o fathodynnau'r gwersylloedd golygu

Gelynion gwleidyddol Troseddwr parhaus Gweithwyr gorfodol o dramor neu fewnfudwyr "Myfyrwyr y Beibl" (Tystion Jehovah) Troseddwyr rhyw (yn cynnwys dynion cyfunrywiol) "Pobl anghymdeithasol" Roma (Sipsiwn)
Lliwiau elfennol              
Symbolau ar gyfer troseddwyr parhaus              
Carcharorion y system gosb (Almaeneg: Strafkompanie)              
Symbolau ar gyfer Iddewon              

Cyfeiriadau golygu

  1. Nazis Open Dachau Concentration Camp
  2. Plant, The Pink Triangle.
  3. Claudia Schoppmann: Nationalsozialistische Sexualpolitik und weibliche Homosexualität (Dissertation, FU Berlin, 1990.) Centaurus, Pfaffenweiler 1991 (revisited 2nd edition 1997). ISBN 3-89085-538-5
  4.  Black triangle women.

Ffynonellau golygu

Dolenni allanol golygu