Batri lithiwm-ion

math o batri aildrydanadwy

Math arbennig o fatri y gellir ei ailwefru ydy batri lithiwm-ion (a enwir hefyd yn Li-ion battery neu LIB). Ynddo, mae'r ionau'n symud o'r electrod negatif i'r electrod positif wrth ddadlwytho'i bwer ac wrth iddo gael ei drydanu. Mae'r ionau hyn yn medru mynd a dod o fewn yr haenau, yn wahanol iawn i'r lithiwm a ddefnyddir mewn batris na ellir eu haildrydanu. Mae'r electrolyt, sy'n caniatáu symudiadau ionig, a'r ddau electrod yn gyfansoddion cyson, yn ddigyfnewid.

Batri lithiwm-ion
Delwedd:Lithium-Ionen-Accumulator.jpg, Lithium-Ion Cell cylindric.JPG
Enghraifft o'r canlynolbattery chemistry type Edit this on Wikidata
Mathrechargeable battery Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscyfansoddion lithiwm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Batri lithiwm-ion mewn Nissan Leaf
Batri ar gyfer Ffôn clyfar Nokia 3310

Mae'r batri Lithiwm-ion[1] yn eithaf cyffredin mewn dyfeisiau electronig yn y cartref. Dyma un o'r mathau mwyaf poblogaidd ar gyfer offer y gellir eu cludo gan nad ydynt yn colli eu gwefr yn hawdd, pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Cânt hefyd eu defnyddio mewn ceir trydan fel y Nissan Leaf a Tesla.[2] Mae Lithiwm-ion yn prysur ddisodli'r hen fath cyffredin, sef y batri asid, a ddefnyddid mewn cerbydau golff, y lori laeth ayb. A thrwy ddefnyddio'r math newydd hwn, nid oes raid addasu'r cerbyd (na'r offer trydanol) mewn unrhyw fodd.

Hanes golygu

 
Batri lithiwm-ion, Amgueddfa Autovision, Altlussheim, Germany

Awgrymwyd y syniad o ddefnyddio lithiwm ar ei ben ei hun, fel batri, gan M Stanley Whittingham, darlithydd ym Mhrifysgol Birmingham, tra roedd yn gweithio i gwmni Exxon yn y 1970au.Defnyddiodd Whittingham y metal titanium(IV) swlffid a lithiwm fel electrodau. Ond roedd perygl o'u defnyddio, gan fod lithiwm yn elfen hynod o adweithiol. Mewn amgylchedd o ddydd i ddydd, mae'n llosgi yn yr aer, oherwydd presenoldeb ocsigen a hydrogen.[3] O ganlyniad, symudodd ffocws yr ymchwil oddi wrth lithiwm metalig i lithiwm ar ei ben ei hun.

Datblygiadau golygu

Un o'r datblygiadau mwyaf o ran effeithiolrwydd y batri yw hwnnw a ddaeth o ffatri enfawr Tesla (mewn partneriaeth gyda Panasonic), sef y Gigafactory yn Nevada, ffatri 3,200 o erwau a gostiodd y cwmni $5 biliwn. Agorwyd y ffatri'n swyddogol yng Ngorffennaf 2016 er mwyn cynhyrchu batris 30% yn is eu pris na chynt. Datblygwyd y ffatri hefyd ar gyfer cyflenwi batris i'r car Model X a hefyd ar gyfer y pecynau storio trydan cartref (celloedd solar): Powerwall.[4]

Gweler hefyd golygu

  • Powerwall - uned i'w osod ar wal y garej i wefru car trydan ayb
  • Cell danwydd - dyfais sy'n trawsnewid yr egni cemegol o danwydd i drydan; dyfeisiwyd gan y Cymro, William Robert Grove o Abertawe.

Cyfeiriadau golygu

  1. Alex Billty. "lithium ion battery". lithiumbatterychina.com. lithium battery china. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-19.
  2. Ballon, Massie Santos (14 Hydref 2008). "Electrovaya, Tata Motors to make electric Indica". cleantech.com. Cleantech Group. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-09. Cyrchwyd 11 Mehefin 2010.
  3. "XXIV.—On chemical analysis by spectrum-observations". Quarterly Journal of the Chemical Society of London 13 (3): 270. 1861. doi:10.1039/QJ8611300270.
  4. Gweler y cylchgrawn Car; Medi 2016l; Rhif 650; tud 63.