Bedřich Smetana

cyfansoddwr a aned yn 1824

Cyfansoddwr o wlad Tsiec oedd Bedřich Smetana ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (2 Mawrth 1824 - 12 Mai 1884). Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r gerdd symffonig Ma Vlast ("Fy Mamwlad").

Bedřich Smetana
Ganwyd2 Mawrth 1824 Edit this on Wikidata
Litomyšl Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1884 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Man preswylBedřich Smetana Memorial Museum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Awstria, Awstria-Hwngari Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Akademické gymnázium Štěpánská Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, arweinydd, athro, addysgwr, pianydd, athro cerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Harmonious Society
  • Hlahol Prague
  • Provisional Theatre Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Bartered Bride, Má vlast, String Quartet No. 1 Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol, opera, symphonic poem Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolYoung Czech Party Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth ramantus Edit this on Wikidata
PriodBettina Smetanová, Kateřina Otylie Kolářová Edit this on Wikidata
PerthnasauJosef František Smetana Edit this on Wikidata
llofnod

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Ganed ef yn Litomyšl, Bohemia, yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Awstria. Bu'n astudio'r piano a'r feiolin er yn ieuanc, ac aeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrag. Yn 1848 cafodd arian gan Franz Liszt i sefydlu ei ysgol gerddoriaeth ei hun.

Yn 1856, symudodd i Gothenburg, Sweden, lle bu'n dysgu a rhoi perfformiadau. Agorodd ysgol gerddoriaeth newydd ym Mhrâg yn 1863, ac yn 1866 cyhoeddodd ei opear gomig Y briodasferch a gyfnewidiwyd. Erbyn 1874 roedd wedi mynd yn fyddar. Parhaodd i gyfansoddi; ysgrifennodd Má vlast wedi iddo fynd yn fyddar. Yn 1875 symudodd i bentref Jabkenice. Bu farw yn 1885 a chladdwyd ef ym mynwent Vyšehrad ym Mhrag.

Ei waith mwyaf adnabyddus efallai yw'r gyfres symffonig ramantaidd Má Vlast ("Fy Mamwlad"), sy'n cynnwys y darn Vltava, sy'n disgrifio cwrs afon Vltava ac sy'n fod i gynrychioli ysbryd Bohemia. Mae'n un o ddarnau cerddorol byr mwyaf adnabyddus y 19eg ganrif.

Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar ei gydwladwr Antonín Dvořák.