Bedo Brwynllys

bardd o Frycheiniog

Bardd Cymraeg oedd Bedo Brwynllys (fl. c. 1460). Hanai o bentref Bronllys ger Talgarth ym Mrycheiniog.

Bedo Brwynllys
Ganwyd1460 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Cyfoeswr iddo oedd Bedo Aeddren a thadogwyd cerddi iddo mewn camgymeriad; roedd y ddau'n canu cerddi serch, yn arddull Dafydd ap Gwilym. Sgwennodd farwnad i Syr Richard Herbert o 'Coldbrook' ger y Fenni a oedd yn fab i William ap Thomas o Gastell Rhaglan a Gwladys ferch Dafydd Gam. Canodd gerddi dychan hefyd i ddau o'i gyd-feirdd: Hywel Dafi a Ieuan Deulwyn, ac ychydig o gerddi crefyddol.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Miller, Arthur (1886). "Brwynllys, Bedo". In Stephen, Leslie. Y Bywgraffiadur Cenedlaethol 7. Llundain: Smith, Elder & Co. tud. 150.