Pobl Arabaidd nomadaidd sydd yn byw yn niffeithwch a lled-anialdiroedd Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol yw'r Bedowiniaid,[1] Bedawiaid[2] neu Bedwyniaid.[3] Cyrhaeddant Gogledd Affrica yn sgil gorchfygiad yr ardal gan yr Arabiaid yn yr 8g. Maent yn siarad Arabeg, gan gynnwys y dafodiaith Arabeg Fedowinaidd. Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn dilyn Islam.

Bedowiniaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Mathnomad, Arabiaid Edit this on Wikidata
MamiaithArabeg edit this on wikidata
Label brodorolبدو Edit this on Wikidata
Poblogaeth22,000,000 Edit this on Wikidata
CrefyddSunni, islam edit this on wikidata
Enw brodorolبدو Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cedwir defaid, geifr, camelod, ac weithiau gwartheg gan y Bedowiniaid. Mae'n bosib iddynt plannu cnydau ar hyd y llwybrau mudo a ddefnyddir amlaf, a'u cynaeafu ar y daith yn ôl. Maent yn masnachu â chymunedau sefydlog.

Mae pobl Baggara yn ne-orllewin Swdan yn disgyn o'r Bedowiniaid ac Affricanwyr croenddu.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Bedowin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2018.
  2.  Bedawiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2018.
  3. Geiriadur yr Academi, "Bedouin".
  4. Jamie Stokes, Anthony Gorman ac Andrew Newman, Encyclopedia of the Peoples of Africa and the Middle East (Efrog Newydd: Infobase, 2009), t. 105.