Bedwyr Lewis Jones

academydd Cymraeg

Ysgolhaig a beirniad llenyddol oedd yr Athro Bedwyr Lewis Jones (1 Medi 193329 Awst 1992), a aned yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru.

Bedwyr Lewis Jones
Ganwyd1933 Edit this on Wikidata
Bu farw1992, 28 Awst 1992 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Magwyd Bedwyr Lewis Jones ym mhentref bach Llaneilian, Ynys Môn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg Iesu, Rhydychen.

Rhwng 1957 a 1960 bu'n un o olygyddion y cylchgrawn llenyddol blaengar Yr Arloeswr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1974 a bu yno am ddeunaw mlynedd hyd at ei farwolaeth yn 1992.

Fel ysgolhaig ymddiddorai yn hanes yr emynwyr Cymraeg, y traddodiad Arthuraidd, ieithyddiaeth a'r ieithoedd Celtaidd a gwaith R. Williams Parry. Roedd yn feirniad craff ond caredig ac yn ffigwr poblogaidd, agos atoch. Roedd wrth ei fodd efo geiriau ac ymadroddion a'u tarddiad a chyfranodd yn gyson i'r Western Mail yn ei golofn wythnosol "Y Ditectif Geiriau".

Llyfryddiaeth golygu

Mae ei gyfrolau'n cynnwys:

Yn ogystal golygodd,

Dolenni allanol golygu