Beirdd y Tywysogion

Arferid cyfeirio at y beirdd llys a ganai yn Oes y Tywysogion fel y Gogynfeirdd, ond erbyn heddiw defnyddir y term Beirdd y Tywysogion. Mae'r term Gogynfeirdd yn cynnwys rhai o'r beirdd a flodeuai ar ddechrau'r 14g ac a ganai yn null traddodiadol Beirdd y Tywysogion; ond serch hynny maen nhw'n perthyn i gyfnod Beirdd yr Uchelwyr pan gollasid nawdd y llysoedd brenhinol mawr.

Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Fe'u gelwir yn Feirdd y Tywysogion am eu bod, bron yn ddieithriad, yn feirdd uchel eu parch a statws a ganai i dywysogion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng dyfodiad y Normaniaid i'r wlad a chwymp Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd yn ei frwydr dros annibyniaeth Cymru yn erbyn coron Lloegr.

Y cynharaf o'r beirdd hyn oedd Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ymhlith y beirdd mwyaf yn eu mysg yw Cynddelw Brydydd Mawr, Llywarch ap Llywelyn, Dafydd Benfras, Bleddyn Fardd a Gruffudd ab Yr Ynad Coch a ganodd farwnad rymus i Lywelyn Ein Llyw Olaf. Eithriad i'r drefn oedd Hywel ab Owain Gwynedd, a oedd yn fardd ac yn dywysog ac felly'n rhydd i ddilyn ei drwydded ei hun, a Madog ap Gwallter a oedd yn frawd crefyddol.

Nodweddir gwaith y beirdd hyn oll gan ei fydryddiaeth gymhleth, ei gystrawen arbennig a'i eirfa hynafol.

Rhestr o'r beirdd golygu

Sylwer mai beirdd adnabyddus sydd â'u gwaith ar gael heddiw yn unig a nodir yma.

Llyfryddiaeth golygu

  • Cyfres Beirdd y Tywysogion: Golygiadau safonol o waith y beirdd llys i gyd, mewn saith cyfrol (Caerdydd, 1991-1996).
  • B. F. Roberts a Morfydd E. Owen (gol.), Beirdd a Thywysogion (Caerdydd, 1996). Arolwg cynhwysfawr ond arbennigol ar farddoniaeth llys Cymru, Iwerddon a'r Alban, gyda sylw arbennig ar waith Beirdd y Tywysogion.
  • J. E. Caerwyn Williams, The Poets of the Welsh Princes (Caerdydd, 1978). Cyfres The Writers of Wales.
  • D. Myrddin Lloyd, Rhai Agweddau ar Ddysg y Gogynfeirdd (Caerdydd, 1976)
  • Gwyn Thomas, Y Traddodiad Barddol (Caerdydd, 1976). Pennod 3: "Y Gogynfeirdd".

Gweler hefyd golygu



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch